CELAVI yn brathu tafod ar sengl newydd

Mae’r grŵp metal o Fangor, CELAVI, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf.

‘Bite My Tongue’ ydy enw’r trac diweddaraf sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 27 Hydref.

CELAVI ydy’r ddeuawd Sarah Wynn Griffiths a’i gwr Gwion Griffiths ac mae’n nhw’n adnabyddus bellach am eu sŵn anthemig ac unigryw sy’n plethu metal, goth, diwydiannol, electro a roc.

 Mae ‘Bite My Tongue’ wedi’i gymryd o EP newydd hir disgwyliedig y ddeuawd (wedi’i gefnogi gan Help Musicians) sydd i’w rhyddhau yn 2024.