Mae cerddor cyfarwydd wedi dychwelyd gyda phrosiect newydd, gan ryddhau EP ers dydd Gwener diwethaf, 18 Awst.
Moddion ydy enw prosiect diweddaraf Gruff Pritchard sydd hefyd yn aelod o fandiau Yr Ods a Carcharorion.
Mae EP cyntaf Moddion, ‘Golau Cyfarwydd’ allan ar label Lwcus T, ac ar gael ar y llwyfannau digidol arferol.
Casgliad o bedair cân sydd ar ‘Golau Cyfarwydd’, caneuon a recordiwyd gan Gruff yn ystod gwanwyn 2023.
Mae offeryniaeth ychwanegol ar un o draciau’r EP, sef ‘Pedwar’, gan un arall o aeodau Yr Ods, Osian Howells ac mae gwaith cymysgu’r caneuon gan Tom Loffman ac Aled Hughes.