Mae’r band roc Cymraeg o’r cymoedd, Chroma, wedi cyhoeddi y byddai nhw’n cefnogi un o fandiau mwyaf y byd, Foo Fighters, mewn gig blwyddyn nesaf.
Bydd y triawd o ardal Pontypridd yn perfformio gyda Foo Fighters, ynghyd â Courtney Barnett ar faes criced Emirates Old Trafford ar 15 Mehefin 2024.
Mae tocynnau ar gyfer y gig ar werth nawr.