Mae’r band electronig Chwalaw yn rhyddhau eu ail sengl gyda Recordiau Udishido ers dydd Gwener 3 Mawrth.
‘Dim Arwyr’ ydy enw’r trac newydd, ac i gyd-fynd â hon maent hefyd wedi cyhoeddi fideo sydd wedi’i ariannu gan gronfa fideos cerddoriaeth PYST a Lŵp.
Chwalaw ydy prosiect electronig y cerddor Efa Supertramp a’r cynhyrchydd Nick Ronin. Ar y sengl newydd mae hefyd yn cael cwmni dau gerddor arall sy’n amlwg iawn ar hyn o bryd sef Cerys Hafana ac Izzy Rabey.
Mae elfennau gwerinol traddodiadol gan y delynores Cerys Hafana ac y feiolinydd o Ferlin Paul Geigerzähler, yn cyfuno gyda sŵn arbrofol ac unigryw electroneg Chwalaw i greu’r gân ‘Dim Arwyr’.
Mae’r trac hefyd yn cynnwys rap pwerus gan Izzy Rabey sy’n llifo trwy’r penillion gydag agwedd ac yn cyferbynnu’n berffaith gyda llais pynci Efa Supertramp ar y gytgan.
Creu dyfodol gwahanol
Cafodd y gân ei chreu yn ystod cyfnod preswyl yn yr Almaen a gafodd ei ariannu gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn 2022. Aeth y ddau brif aelod o’r band i gydweithio gydag artistiad o’r ardal Sorbaidd sydd hefyd ag iaith a diwylliant lleiafrifol.
“Yn ystod y residency efo’r artistiaid Sorbaidd rodden ni yn trafod lot am sut mae gymaint o ein traddodiadau (Cymraeg a Sorbaidd) yn rili patriarchal ac sud redden ni eisiau creu dyfodol gwahanol i ein ieithoedd a diwylliannau – dyfodol feminist a queer” esboniodd Efa wrth drafod sut daeth y gan i fodolaeth.
“‘Nath Paul Geigerzähler rhoi’r melody feiolin lawr (o gan traddodiadol Sorbaidd) ac yna dyma Nick yn ei lŵpio ac adeiladu’r track o fana.
“Roedd geiriau’r gân werin wreiddiol ‘Budzer’ yn afiach, felly hyna oedd yr ysbrydoliaeth rili – o ni just yn meddwl am y holl pobl cryf sydd wedi bodoli yn y gorffennol a sut mae ei storiâu wedi ei anghofio a’i colli. O fana natha ni yrru’r gân i Izzy i weld os oedd hi isho rhoi rap arna fo…”
Dylanwad chwedlau Cymreig
Os mai dylanwad traddodiad Sorbaidd oedd man cychwyn yr alaw, mae’r dylanwad ar eiriau’r rap yn dechrau gyda thraddodiad Cymreig, fel yr eglura Izzy Rabey.
“Mae’r Mabinogion wastad yn portreadu menywod fel unigolion sy angen cael eu hachub, yn “pur”, yn ddioddefwyr trawma ac yn gohirio i’w frodyr a gŵr potensial” meddai Izzy.
“I fi, mae’r bortread yma fel menywod fel dioddefwyr yn chwarae mewn i sut mae cerddoriaeth a’r chelfyddydau Cymraeg yn portreadu menywod.
“Ar gyfer y gân yma, roeddwn i eisiau siarad am y pŵer sydd i’w ffeindio mewn dathlu eich cymhlethdod, o fod yn wrach yn hytrach na tywysoges a pa mor ddwfn mae chwedlau yn gallu chware mewn i sut ydyn ni’n gweld pobl femme heddiw.”
Efa Supertramp, Izzy Rabey a Cerys Hafana sydd hefyd yn ymddangos yn y fideo sy’n eu dangos mewn gwisgoedd priodas mewn coedwig. Mae’r dair cerddor yn crwydro trwy’r goedwig mewn rhyw fath o ffantasi ffeministaidd cwiar sy’n gorffen gyda mŵg a mwd.
Izzy gafodd ei dewis i gyfarwyddo’r fideo, gyda Gabi Norland yn ffilmio a chyfarwyddo’r ffotograffiaeth, ac mae’n egluro o ble ddaeth ei ysbrydoliaeth.
“O fewn cyd-destun y fideo fe wnes i dynnu ysbrydoliaeth o fideos Courtney Love yn ei band Hole yn y 90au a gwaith band Punk y 70au The Slits – y llawenydd, mwynhad a nerth sy’n cael ei ddatgloi wrth beidio glynu at ystrydebau benywaidd chwedlonol Cymraeg. Cofleidio’r hyll ar phŵer sydd o fewn ni gyd!”