Ci Gofod yn Rhedeg yn y Nos

Mae’r prosiect ffync-bop o Benybont, Ci Gofod, wedi rhyddhau ei sengl Gymraeg newydd ers dydd Gwener 3 Mawrth. 

‘Rhedeg yn y Nos’ ydy enw’r trac newydd gan Ci Gofod, sef prosiect y canwr-gyfansoddwr ac offerynnwr amryddawn, Jack Thomas Davies. 

Ymddangosodd Ci Gofod gyntaf gyda’r sengl Saesneg ‘Castle Square’ yn 2020 ac mae wedi cyhoeddi cyfres o senglau ers hynny gan gynnwys ‘Lose the Pressure’ sydd wedi bod yn boblogaidd iawn ar y llwyfannau ffrydio. Mae hefyd wedi rhyddhau traciau Cymraeg gan gynnwys ‘Dyfodol’ ac ‘Araf Araf Araf’.

Mae Jack wedi’i ysbrydoli gan recordiau ffync 80au ei dad, ac mae’n dwyn dylanwad hefyd gan grwpiau fel Super Furry Animals a Sly and the Family Stone.

Mae’n ysgrifennu a recordio ei gerddoriaeth yn ei stiwdio ystafell wely yn y Cymoedd, ac yn dod ag iwfforia indie-ffync i lwyfannau gyda’i fand byw sy’n cynnwys Josh David Read (allweddellau, gitâr, llais), Lloyd Bastian (gitâr, llais), Quillian Thomas (bas) a Josh Cox (Drymiau).