Ciwb yn rhyddhau trac gydag Iwan Huws

Mae’r grŵp sy’n gyfarwydd am greu cyfyrs o ganeuon Cymraeg amlwg o’r gorffennol, Ciwb, yn ôl  gyda sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 10 Chwefror. 

‘Laura’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan y prosiect ac maent unwaith eto wedi cyd-weithio gydag artist ar y trac – Iwan Huws o’r Cowbois Rhos Botwnnog sydd hefyd yn rhyddhau cerddoriaeth yn unigol ydy’r gwestai y tro hwn. 

Ciwb ydy’r band a ffurfiodd yn rhithiol yn ystod y cyfnod clo ac sy’n cynnwys nifer o enwau amlwg i’r sin Gymraeg –  Elis Derby, Marged Gwenllian (Y Cledrau), Gethin Griffiths (Sôn am Sin a bandiau amrywiol) a Carwyn Williams (Fleur de Lys, Gwilym). 

Ar ôl cyhoeddi fideos ohonynt yn perfformio fersiynau newydd o ganeuon Cymraeg enwog o’r archif, bu iddynt ryddhau albwm llawn o cyfyrs ym mis Gorffennaf 2021 gan gyd-weithio gyda nifer o gerddorion unigol eraill i ganu ar y mwyafrif o’r traciau. 

Wedi’r albwm, rhyddhawyd fersiwn llawn enaid o gân wreiddiol Rhiannon Tomos, ‘America’, gyda Elan Rhys fel sengl yn 2022. 

Mae sengl ddiweddara’r band yn mynd â ni yn ôl i’r 1970au at un o glasuron Endaf Emlyn oddi ar ei ail albwm eiconig ‘Salem’. 

Iwan Huws sy’n ymuno efo’r band y tro yma mewn dehongliad hudolus ac eto’n chwareus o’r gân ‘Laura’, sy’n gân llawn rhamant ac yn adleisio arddulliau telynegol a ffync.

Yn newyddion pellach ydy fod Ciwb wrthi’n gweithio ar albwm newydd at yr Hydref, ac yn bwriadu rhyddhau sengl neu ddwy fel tameidiau i aros pryd.

Mae  fideo gan Ffotonant hefyd wedi’i gyhoeddi ar gyfer y sengl – gwyliwch hwn isod. 

  • Anwybyddu
  • Dysgu
  • Nôl
  • Nesaf