Mae’r band cyfyrs Cymraeg, Ciwb, yn eu holau gyda fersiwn newydd sbon o ‘Cwsg Gerdded’ gan Topper.
Dyma’r drydedd sengl iddyn nhw ei rhyddhau ers yr albwm cyntaf yn 2021 – mae’n dilyn ‘America’ gydag Elan Rhys (yn wreiddiol gan Rhiannon Tomos), a’u fersiwn o ‘Laura’ gan Endaf Emlyn gydag Iwan Huws yn canu’r prif lais.
Ceir yma fersiwn deimladwy o un o ganeuon mwyaf tyner Topper, a ryddhawyd ar yr albwm ‘Non Compos Mentis’ yn ôl yn 1999. Mae’r band yn talu teyrnged i’r prif leisydd Dyfrig Evans a fu farw llynedd.
Nid oes cerddor gwâdd yn canu y tro hwn, ond yn hytrach, mae un o’r aelodau, Elis Derby, yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw. Ymuna Marged Gwenllian, Carwyn Williams a Gethin Griffiths gydag o yn ôl yr arfer.
Cafodd ei recordio a’i chymysgu gan Ifan Emlyn Jones yn Stiwdio Sain.