Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi rhyddhau eu sengl newydd ers 18 Gorffennaf. ‘Clawdd Eithin’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y triawd o Ben Llŷn a dyma eu cynnyrch newydd cyntaf ers sawl blwyddyn.
Roedd y band yn perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau dros y penwythnos, ac wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld ag ardal magwraeth y tri brawd, mae’n briodol eu bod yn rhyddhau’r sengl bythefnos cyn yr ŵyl.
Bydd cyfle i weld Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio ar nos Lun yr Eisteddfod yn gig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngwesty’r Nanhoron yn Nefyn.
Mae ‘Clawdd Eithin’ allan ar label Sbrigyn Ymborth, ond dim ond trwy safle Bandcamp Cowbois Rhos Botwnnog ar hyn o bryd – yn ôl y label, fe fydd ar y llwyfannau digidol arferol eraill ymhen cwpl o wythnosau.