“Cerddoriaeth werin Gymraeg ar fysellfwrdd Casio rhad o’r wythdegau” – dyna sut mae Ffos Goch yn disgrifio ei EP newydd.
‘Y Casio Gwerin’ ydy enw’r casgliad byr diweddaraf gan brosiect cerddorol unigol Stuart Estell, ac mae allan ar label Recordiau Hwyrol.
Daw Stuart o Redditch, Swydd Gaerwrangon, ac er bod ganddo gysylltiadau Cymreig, dim ond yn 2019 y dechreuodd ddysgu’r iaith Gymraeg o ddifrif. Er hynny, mae wedi dod yn ddigon hyderus yn yr iaith i ddechrau rhyddhau cerddoriaeth Gymraeg ers yr hydref llynedd pan laniodd y sengl ‘Dim ond Gwichiaid Môn’ ar ei safle Bandcamp.
Ers hynny mae wedi bod yn hynod gynhyrchiol gan ryddhau nifer o senglau, ynghyd â’r EP, Atgofion, ym mis Mai. ‘Y Casio Gwerin’ ydy ail EP Ffos Goch o’r flwyddyn felly, ac ar ôl iddo ddysgu Cymraeg mae’n gweld Stuart yn holi “Sut gallai plentyndod Cymraeg fod wedi swnio i fi?” Yr ateb? “Fel hyn, efallai.”
“Sŵn diniweidrwydd, sŵn plentyndod yw’r hen Casio i fi” eglura Stuart.
“Sŵn tapiau ar gyfer mam-gu. Dechrau fy nghariad tuag at ddrymiau electronig. Mae’r offeryn wedi hen fynd, ond mae’r sŵn wedi aros yn y cof, ac yn bwysicach fyth, mae samplau’n dal i fod ar gael fel offeryn rhithiol.
“Dim ond seiniau o’r Casio MT-10 sydd yn cael eu defnyddio ar y recordiad hwn – yr un seiniau o’n i’n caru fel plentyn, er oedden nhw ar Casio CT-310 bryd hynny.”
Dyma ‘Ffarwel i Aberystwyth’ o’r EP newydd: