Mae’r band o Fangor, CRINC, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Sadwrn 16 Medi.
‘SRG’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Strangetown.
Mae’r band yn gyfarwydd am eu cerddoriaeth roc pync ac yn cael eu harwain gan y cerddor ac artist celf enigmatig, Llyr Alun. Fe ellid eu cymharu gyda bandiau fel Jesus & The Mary Chain, My Bloody Valentine a Sonic Youth.
Fel y byddech chi’n disgwyl gan ganeuon Crinc, mae geiriau’r sengl newydd yn cicio’n erbyn y tresi ac yn ddychanol tuag at y Sin Roc Gymraeg.
Dyma ‘SRG’: