Pleser o’r mwyaf ydy hi i’r Selar gyflwyno nid yn unig trac newydd sbon, ond artist newydd sbon danlli i chi yr wythnos yma!
Buddug ydy enw’r artist newydd rydan ni’n gyffrous iawn amdani, ac rydan ni wrth ein bodd gyda’i sengl gyntaf, ‘Dal Dig’.
Cerddor 17 oed o Brynrefail ydy Buddug, a Recordiau Côsh sy’n gyfrifol am ddarganfod ei thalent unigryw…gyda chydig bach o ddiolch i Alys Williams hefyd!
Mae Buddug wedi bod yn ysgrifennu ei chaneuon ei hun ers sawl blwyddyn bellach, ac yn ystod y cyfnod clo, tyfodd y gantores mewn hyder, yn rhannol diolch i sesiynau un-i-un gydag Alys Williams dros Zoom.
Cysylltodd Alys ag Yws Gwynedd o Recordiau Côsh a daeth y cyfle iddi fynd i stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth, i recordio cwpl o ganeuon gyda Rich James Roberts yn gynharach yn y flwyddyn, gan gynnwys ei sengl gyntaf.
Mae’r sengl honno allan ddydd Gwener yma, 17 Tachwedd, ond mae cyfle cyntaf ecsgliwsif i chi glywed ‘Dal Dig’ yma ar wefan Y Selar – jyst cliciwch fan hyn i wrando ar y trac.
Mae Buddug yn tynnu ar brofiadau personnol yn ei cherddoriaeth, ac mae hynny’n amlwg gyda ‘Dal Dig’.
“Mae’r gan “Dal Dig” wedi’w ddylanwadu gan wahanol faterion, ond yn enwedig iechyd meddwl” eglura’r artist.
“Dwi wedi gweld nifer o bobl o’ng nghwmpas yn cael cyfnodau anodd yn feddyliol, ac felly mae’r gan yn berspectif allanol o weld eraill yn stryglo.”
Mae addewid o fwy o gerddoriaeth gan Buddug yn y flwyddyn newydd, felly cadwch olwg amdani dros y misoedd nesaf – mae’n siŵr o greu argraff.