Cyfle cyntaf i weld…fideo ‘Ymdrech’ gan Geraint Rhys

Rydan ni’n hoff iawn o waith y canwr-gyfansoddwr o Abertawe, Geraint Rhys, yma yn Y Selar.

Roedden ni wrth ein bodd felly i glywed bod ganddo sengl newydd ar y ffordd, ynghyd â fideo ar gyfer y trac. A phan ddaeth y cyfle i ni gynnig y cyfle cyntaf i chi weld y fideo ar wefan Y Selar…wel, sut allen ni wrthod!

‘Ymdrech’ ydy enw’r sengl newydd sy’n gweld Geraint Rhys yn bwrw golwg ar bopeth sydd o’i le yn ein cymdeithas ni heddiw.

“Weithiau, mae’r byd yn teimlo’n ormod ac mae’n anodd peidio diflasu” meddai Geraint wrth drafod y gân.

“Nes i ’sgwennu’r trac yma ar ôl gweithio gydag ambell i reolwr oedd yn hollol afiach ac felly mae’r trac yn adlewyrchu ar ein bywydau cyflym ni heddiw a sut gallai’r cyfryngau cymdeithasol fod yn lle tocsig.

Mae ‘Ymdrech’ allan fory, 20 Hydref, ar label Geraint ei hun, Akruna. “Mae’r gân hefyd yn adlewyrchu ar y ffaith ei fod yn OK i gasáu rhai pethau a bod angen cofio bod hapusrwydd rownd y gornel” ychwanega Geraint.

Y cerddor cynhyrchiol sydd wedi ffilmio, cyfarwyddo a golygu’r fideo ei hun, ac mae’n serennu Dewi Wykes, Louis Suc, Amelie Luhede a Josie Antonucci…heb anghofio Kenya a Rio (y cwn!)

Dyma’r fid isod felly, ac am diiiiwn gan Geraint