Mae Dadleoli wedi datgelu eu bod wrthi’n recordio fersiynau newydd o ganeuon Nadolig cyfarwydd fydd yn cael eu rhyddhau’n fuan.
Yn ôl y band ifanc o Gaerdydd, maent yn gweithio ar eu fersiynau eu hunaon o dair clasur o ganeuon Nadoligaidd gan gydweithio gydag an Yws Gwynedd, Al Lewis a Caryl Parry Jones.
Mae’r grŵp wedi bod yn gweithio ar y caneuon yn stiwdio Coco & Cwtsh sydd ger Caerfyrddin.
Dywed y band bydd y dair cân yn cael eu rhyddhau yn ystod mis Rhagfyr, a byddan nhw i’w canfod ar gyfryngau cymdeithasol Dadleoli.
“Rydyn ni wedi mwynhau’n arw mynd ati a rhoi stamp Dadleoli ar ganeuon Nadolig mwyaf Cymru” meddai Jake Collins o’r band.
A hwythau ond wedi ffurfio yn 2022, mae eisoes wedi bod yn flwyddyn gofiadwy i’r band ifanc wrth iddynt ryddhau eu EP cyntaf ar label JigCal ym mis Gorffennaf a gigio’n rheolaidd yn ystod y flwyddyn.