Cyhoeddi arlwy Car Gwyllt 2023

Mae gŵyl gerddoriaeth Car Gwyllt ym Mlaenau Ffestiniog wedi cyhoeddi manylion y digwyddiad eleni. Cynhelir yr ŵyl yng Nghlwb Rygbi Bro Ffestiniog ar benwythnos 7 – 9 Gorffennaf.

Bydd y gerddoriaeth fyw yn dechrau ar nos Wener 7 Gorffennaf gyda Gwilym, Dafydd Iwan, Chwaral ac Yr Ogs yn perfformio.

Bydd cerddoriaeth trwy’r dydd ar y dydd Sadwrn gyda MR (Mark Roberts) yn cloi’r diwrnod fel hedleinar.

Hefyd yn perfformio ar y dydd Sadwrn bydd Chroma, Los Blancos, Tara Bandito, HMS Morris, Tri Hwr Doeth, Alffa, Kim Hon, Crinc, Hap a Damwain, a Ffatri Jam.

Mae tocynnau ar werth nawr am £20 ar gyfer y nos Wener, £25 am y dydd Sadwrn neu £40 am y penwythnos.