Mae trefnwyr Gŵyl Llanuwchllyn wedi cyhoeddi manylion perfformwyr y digwyddiad eleni.
Cynhelir yr ŵyl ym mhentref Llanuwchllyn ger Y Bala ar ddydd Sadwrn 26 Awst y tro hwn.
Y prif atyniad cerddorol eleni fydd y triawd pop Eden, gyda’r band lleol poblogaidd, Y Cledrau yn brif gefnogaeth.
Bydd dau artist lleol arall yn perfformio yn yr ŵyl hefyd sef y band ifanc, Mynadd, a’r gantores addawol o’r ardal, Melda Lois.
Mae Gŵyl Llanuwchllyn yn ŵyl gymharol newydd a sefydlwyd ychydig o flynyddoedd yn ôl. Fel y rhan fwyaf o ddigwyddiadau eraill o’r fath fe gafwyd saib o’i chynnal dros gyfnod Covid ond fe ddychwelodd yn 2022 gydag Yws Gwynedd, Rhys Gwynfor, Ciwb a Sorela yn perfformio.