Cyhoeddi Artistiaid Cronfa Lansio Gorwelion

Mae cynllun Gorwelion, sy’n cael ei redeg gan BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, wedi cyhoeddi enwau 42 o artistiaid Cymreig fydd yn derbyn arian o Gronfa Lansio’r cynllun eleni.

Mae dros £70,000 yn cael ei rannu ymysg yr artistiaid a labeli llwyddiannus fel rhan o Gronfa Lansio Gorwelion 2023 – dyma’r swm uchaf a gynigwyd ers sefydlu’r gronfa yn 2014.

Cynigir cyllid i gefnogi gwaith talent o bob rhan o’r wlad ac sy’n rhychwantu sbectrwm tirwedd gyfan cerddoriaeth yng Nghymru.

Mae’r derbynwyr yn cynnwys mintai gref o artistiaid o’r gymuned RnB a rap, bandiau roc a pync, perfformwyr talentog yn yr iaith Gymraeg ac artistiaid newydd cyffrous sy’n ennill cydnabyddiaeth ac yn tyfu eu cynulleidfaoedd ar lwyfan ac ar recordiau.

Digwyddiadau lansio

Cyhoeddwyd y gwobrau ar drothwy Dydd Miwsig Cymru ac, i nodi’r diwrnod hwn ac i ddathlu’r artistiaid sy’n derbyn gwobrau, roedd Gorwelion yn cynnal parti lansio swyddogol yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd y noson flaenorol, sef nos Iau 9 Chwefror gyda nifer o’r artistiaid llwyddiannus yn perfformio. 

Roedd detholiad o artistiaid Cronfa Lansio 2023 – gan gynnwys Sage Todz, Parisa Fouladi, Gillie a Melda Lois hefyd yn recordio sesiynau’r BBC yn Sgwâr Canolog y BBC ar Ddydd Miwsig Cymru. 

Mae’r artistiaid sy’n derbyn gwobrau eleni i ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol yn cynnwys y band roc Cymraeg Ffatri Jam – sy’n hanu o Fôn a Chaernarfon; y canwr-gyfansoddwraig R&B o Gaerdydd Aduja; y band aggro-glam Telgate; Truth, rapiwr 19 oed o Gasnewydd, yr artist hip hop o Ogledd Cymru Sage Todz; y canwr pop indie Aderyn, a fagwyd ar fferm ddefaid ym Mannau Brycheiniog; yr act electronig arbrofol Sachasom sy’n hanu o Fachynlleth; a Koash – artist pop cyfoes o dras Arabaidd a Chymreig.

Mae tri label recordio hefyd wedi derbyn arian eleni i helpu eu gwaith nhw i ddatblygu a chefnogi artistiaid Cymreig. Y tri label yw Dirty Carrot Records – label recordio annibynnol wedi’i leoli yng Nghasnewydd: a’r labeli yng Nghaerdydd, Bard Picasso Records a Phwoar a Peace Records.

 Buddsoddiad ar lawr gwlad

Yn ôl rheolwr prosiect Gorwelion, mae’r cyllid yn un pwysig iawn i artistiaid ar ôl cyfnod heriol iawn iddynt.

“Yn sicr mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i artistiaid newydd ac i’r gymuned gerddoriaeth yng Nghymru, ac mae wedi bod yn gyfnod heriol i bawb fagu momentwm eto felly mae’n wych gweld buddsoddiad ar lawr gwlad y sîn yng Nghymru” meddai Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect gyda Gorwelion.  

“Drwy fuddsoddi mewn artistiaid, rydym yn rhoi hwb i’r holl ecosystem gerddoriaeth o amgylch yr artistiaid – o’r stiwdios i gynhyrchwyr, labeli, cwmnïau hyrwyddo a chymaint mwy. Rydyn ni’n gyffrous iawn i weld sut mae’r prosiectau cerdd hyn yn datblygu.”

Ers ei sefydlu wyth mlynedd yn ôl, mae Cronfa Lansio Gorwelion wedi’i rhoi i tua 300 o artistiaid, o dros 60 o wahanol ddinasoedd a threfi yng Nghymru, gan fuddsoddi £343,000 yn ecosystem cerddoriaeth Cymru. Mae’r arian ar gyfer Cronfa Lansio Gorwelion yn bosibl drwy’r Loteri Genedlaethol, a ddyrennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae llawer wedi cael eu cefnogi yn eu gwaith creadigol gyda’r gronfa yn eu galluogi i dreulio amser mewn stiwdio, comisiynu ffotograffiaeth a gwaith celf ar gyfer hyrwyddo recordiau newydd, offer, cynhyrchu fideo a chostau teithio. I’r pedwar deg dau o artistiaid y dyfarnwyd cyllid iddynt eleni, mae hon yn foment allweddol yn eu taith ac yn gam yn nes at gymorth arall gan Gorwelion gan gynnwys datblygu artistiaid, hyrwyddo ac arddangos setiau mewn gwyliau.

Panel o bobl sy’n gysylltiedig a’r diwydiant cerddoriaeth Cymreig oedd yn gyfrifol am ddewis  artistiaid fyddai’n derbyn arian o’r gronfa eleni.  

Dyma restr lawn o’r artistiaid a labeli sydd wedi derbyn cyllid Cronfa Lansio Gorwelion 2023:

 

  • ADERYN – ABERHONDDU
  • ADJUA – CAERDYDD
  • ANGEL HOTEL – CAERDYDD
  • ANGHARAD – ABERTAWE
  • BABY BRAVE – WRECSAM
  • BANSHI – CAERDYDD
  • BARD PICASSO RECORDS – CAERDYDD
  • BREICHIAU HIR – CAERDYDD
  • CHROMA – PONTYPRIDD
  • DACTYL TERRA – CAERDYDD
  • DD DARILLO – CAERDYDD
  • DIRTY CARROT RECORDS – CASNEWYDD
  • FFATRI JAM – YNYS MÔN A CHAERNARFON
  • FRENCH ALPS TIGER – PONTADAWE
  • GILLIE – LLANGADOG, SIR GAERFYRDDIN
  • HOLLIE PROFIT – CONWY
  • JENNA KEARNS – CASNEWYDD
  • JIMBO – CAERDYDD
  • KOASH – CASNEWYDD
  • LEILA MCKENZIE – ABERTAWE
  • MACY — ABERTILLERY
  • MAN LIKE VISION – CASNEWYDD
  • MARI MATHIAS – CAERDYDD
  • MELDA LOIS – CAERDYDD
  • MINAS – CAERDYDD
  • MURDER CLUB – CASNEWYDD
  • NATTY PAYNTER – CAERDYDD
  • NOOKEE – CAERDYDD
  • PARISA FOULADI – CAERDYDD
  • PHWOAR & PEACE RECORDS – CAERDYDD
  • RHI’N’B – ABERTAWE
  • SACHASOM – MACHYNLLETH
  • SAGE TODZ – CAERNARFON
  • SAMANA – WHITLAND, SIR GAERFYRDDIN
  • SORRY STACY – CAERDYDD
  • SYWEL NYW – CAERDYDD
  • TELGATE – CAERDYDD
  • THE FAMILY BATTENBURG – CAERDYDD
  • THE GOUDIES – PONTYCLUN, RHONDDA
  • THE NIGHT SCHOOL — ABERTAWE
  • THE LIXX – TONYREFAIL, RHONDDA
  • TRUTH – CASNEWYDD