Cyhoeddi enillwyr Gwobr Trisgel

Mae trefnwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig (Welsh Music Prize) wedi cyhoeddi enillwyr yr artistiaid sydd wedi ennil eu Gwobr Trisgel eleni.

Crëwyd Gwobr Triskel gan dîm Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019 i ddathlu a chefnogi tri artist sy’n dod i’r amlwg sy’n cynnig dyfodol disglair i gerddoriaeth yng Nghymru.

Mae’r enillwyr blaenorol wedi cynnwys Eädyth, Malan a Los Blancos.

Cyhoeddwyd mai’r tri enillydd ar gyfer 2023 ydy Half Happy, Dom & Lloyd a Talulah.

Bydd prif enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni’n cael ei ddatgelu mewn seremoni arbennig ar 10 Hydref. 

(Llun: Talulah)