Mae gŵyl ‘showcase’ gerddoriaeth FOCUS Wales wedi cyhoeddi enwau cyntaf yr artistiaid fydd yn perfformio yno fis Mai nesaf.
Cynhelir yr ŵyl mewn lleoliadau amrywiol yn Wrecsam rhwng 9 a 11 Mai 2024 ac wythnos diwethaf fe gyhoeddwyd enwau 70 o’r bandiau a cherddorion fydd i’w gweld ar y llwyfan yno.
Y prif enwau sydd wedi’u cyhoeddi ydy Spiritualized, The Mysterines a The Royston Club. Mae sawl artist sy’n perfformio yn y Gymraeg wedi’u cyhoeddi’n barod hefyd sef Adwaith, Melin Melyn, Cerys Hafana, Gillie, Cowbois Rhos Botwnnog, Chroma, Dom a Lloyd, HMS Morris, Mared, Pys Melyn, Ynys a The Gentle Good.
Bydd 250 o artistiaid yn perfformio yno i gyd dros y penwythnos ar 20 o lwyfannau gwahanol.
Cadwch olwg ar wefan FOCUS Wales am fwy o wybodaeth.