Mae trefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn y Bannau Brycheiniog wedi dechrau cyhoeddi enwau’r artistiaid fydd yn perfformio yno eleni.
Gŵyl y Dyn Gwyrdd ydy gŵyl gerddoriaeth fwyaf Cymru ac mae’n cael ei chynnal eleni ar benwythnos 17-20 Awst.
Cymaint ydy ffydd y gynulleidfa yn yr arlwy, mae’r tocynnau ar gyfer digwyddiad 2023 eisoes wedi eu gwerthu i gyd, cyn cyhoeddi unrhyw artistiaid sy’n perfformio.
Nawr mae nifer o’r perfformwyr wedi eu datgelu wrth i Ŵyl y Dyn Gwyrdd ryddhau enwau’r don gyntaf o artistiaid fydd ar y llwyfan eleni.
Mae’r artistiaid amlycaf yn cynnwys y ddeuawd indie-gwerin o Sweden, First Aid Kit, y band ‘space rock’ chwedlonnol, Spiritualized, a’r band ton newydd arloesol, Devo.
Mae ‘na sawl enw fydd yn gyfarwydd iawn i ddilynwyr y sin gerddoriaeth Gymraeg hefyd gan gynnwys H. Hawkline, Sister Wives, Melin Melyn a The Gentle Good.
Enw diddorol arall ar y rhestr ydy DD Darillo, sef prosiect diweddaraf Dylan Morgan o’r band llwyddiannus Boy Azooga a enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2018 gyda’r albwm ‘1,2, Kung Fu’.
Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn enwog am y gerddoriaeth a’r golygfeydd godidog sy’n amgylchynnu safle’r ŵyl. Ond mae llawer mwy yno hefyd gyda deg ardal unigryw sy’n cynnig gweithgareddau unigryw gan gynnwys ce;lf gweledol, pabell gwrw a seidr i fwynhau llymaid Gymreig, ardal darganfod ar gyfer plant, gofod ymlacio a gweithdy ar gyfer pobl yn eu harddegau ac ardal gwyddoniaeth yng Ngardd Einstein.
Bydd mwy o wybodaeth am y gerddoriaeth, gwyddoniaeth, ffilm, comedi a llenyddiaeth yn dilyn dros y misoedd nesaf.
Mae cyfle i’r rhai sydd am ymestyn eu hymweliad â’r ŵyl i brynu ‘tocyn sefydlwr’ sy’n eu galluogi i gyrraedd yr ŵyl o ddydd Llun 14 Awst a sy’n cynnig gostyngiad ar fynediad i safleoedd treftadaeth leol, galerïau, cestyll a mwy.
Prif Lun: Bydd Melin Melyn ymysg perfformwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd eleni