Mae’r prosiect hip hop dirgel Gwcci wedi rhyddhau fideo newydd ar gyfer eu sengl ddiweddaraf, ‘Canna’.
Rhyddhawyd ‘Canna’ ar 3 Chwefror, ac mae’n ddilyniant i sengl gyntaf Gwcci, ‘Sgerbyde’ a ryddhawyd yn yr hydref.
Nawr maent wedi cyhoeddi fideo newydd i gyd-fynd â’r sengl sydd ar gael i’w wylio ar sianel YouTube label Recordiau Bica.