Cyhoeddi holl enillwyr Gwobrau’r Selar 2022

Neithiwr ar ei raglen BBC Radio Cymru fe ddatgelodd Huw Stephens yr enillwyr olaf ar gyfer Gwobrau’r Selar eleni.

Mae’r Selar yn falch iawn i gyd-weithio unwaith eto eleni gyda BBC Radio Cymru i gyhoeddi canlyniad y bleidlais gyhoeddus yn fyw ar yr awyr.

Dechreuodd y dathliadau Gwobrau’r Selar wythnos diwethaf gyda chyhoeddiadau’r ddwy wobr sy’n cael eu dyfarnu gan dîm golygyddol Y Selar. Cyhoeddwyd nos Fawrth (14 Chwefror) diwethaf ar raglen Georgia Ruth, oedd yn cael ei chyflwyno gan Rhys Mwyn, mai Lisa Gwilym oedd enillydd Gwobr Cyfraniar Arbennig Y Selar.

Derbyniodd Lisa ei gwobr, sy’n ddarn o gelf unigryw gan yr artist Owain Davies sy’n fyfyriwr  yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn fyw ar yr awyr ac roedd yn amlwg wrth ei bodd.

Dilynwyd hynny gan y cyhoeddiad nos Iau (16 Chwefror) ar raglen Huw Stephens, mai Izzy Rabey oedd i dderbyn Gwobr 2022 Gwobrau’r Selar, ac roedd hi hefyd yn amlwg yn falch iawn o’r gydnabyddiaeth am y gwaith da mae’n gwneud i hybu amrywiaeth a chynrychiolaeth yn y sin a thu hwnt.

Enillwyr pleidlais y cyhoedd

Roedd naw o wobrau’r Selar eleni’n cael eu dewis, yn ôl yr arfer, gan y cyhoeddi ar ffurf pleidlais gyhoeddus. Datgelwyd y rhestrau byr penwythnos diwethaf ac roedd yn wych gweld cymaint o amrywiaeth ar rhain eleni.

Wrth i’r enillwyr gael eu datgelu’n raddol ar raglenni amrywiol BBC Radio Cymru, roedd yr amrywiaeth ymysg rhain yn drawiadol ac yn arwyddocaol hefyd.

Dechreuodd y cyfan ar raglen Aled Hughes fore dydd Llun gyda’r cyhoeddiad mai Mared oedd enillydd y wobr am yr Artist Unigol Gorau. Dyma’r trydydd tro yn olynol iddi gipio’r teitl.

Nos Fawrth oedd y cyhoeddiadau nesaf gydag enillwyr dwy wobr yn cael eu datgelu ar raglen Georgia Ruth. Cyhoeddwyd yn gyntaf mai gwaith celf unigryw Gruffydd Sion Ywain ar gyfer ail albwm Sŵnami, Sŵnamii, oedd enillydd y wobr Gwaith Celf Gorau eleni, ac roedd Gruffydd ar y rhaglen i sgwrsio gyda Georgia.

Yr ail gyhoeddiad ar y noson oedd mai EP Thallo, Crescent, oedd enillydd y wobr am y Record Fer Orau eleni ac mae pawb yn Y Selar yn dymuno’n dda i Thallo.

Artistiaid newydd yn creu argraff

Nos Fercher, tro Mirain Iwerydd oedd hi i ddatgelu cwpl o’r enillwyr. Cyhoeddodd i ddechrau mai’r fideo ardderchog ar gyfer ‘Drama Queen’ gan Tara Bandito oedd enillydd teitl y Fideo Gorau y tro hwn.

Tara’i hun sydd wedi cyfarwyddo’r fideo gyda chymorth Rich Roberts fel cynhyrchydd ac Andy Neil Pritchard fel Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth.  A hithau ond wedi rhyddhau ei sengl gyntaf fel Tara Bandito yn Ionawr 2022, roedd yn flwyddyn gofiadwy i’r gantores amryddawn.

Cyfrifoldeb Mirain hefyd oedd cyhoeddi mai Dom James a Lloyd Lew oedd wedi dod i frig y bleidlais i ddewis y Band neu Artist Newydd Gorau ar gyfer 2022 – does dim amheuaeth mai eu sengl ‘Pwy Sy’n Galw?’ oedd un o uchafbwyntiau cerddorol y flwyddyn.

Adwaith yn brif enillwyr

Wrth agosáu at ddiwedd yr wythnos roedd llond llaw o enillwyr yn parhau i’w datgelu, ac mae’n anodd iawn dadlau gyda dewis y cyhoedd o Fand Gorau 2022!

Roedd yn flwyddyn anhygoel arall i Adwaith, sydd wedi parhau i fynd o nerth i nerth, wrth iddynt ryddhau eu hail albwm, Bato Mato fis Gorffennaf, a syfrdanu cynulleidfaoedd ledled Cymru a’r byd gyda’u sioeau byw.

Cyhoeddwyd ar raglen Huw Stephens gyda’r hwyr mai Adwaith oedd Band Gorau Gwobrau’r Selar eleni, ac yn wir roedd yn ail wobr y dydd i’r triawd o Gaerfyrddin. Y bore hwnnw roedd basydd y grŵp, Gwenllian Anthony, ar raglen Aled Hughes i glywed mai eu prif sengl o’r albwm, ‘Eto’, oedd enillydd Cân Orau 2022. Tiiiwwn!

Roedd dwy wobr arall i’w cyhoeddi ddydd Iau, a datgelwyd canlyniad y bleidlais am y Record Hir Orau ar raglen Ifan Evans yn y prynhawn. Ac unwaith eto, roedd yn esiampl o artist ifanc yn gwneud ei marc wrth i albwm cyntaf Angharad Rhiannon, Seren, gipio’r teitl o drwch blewyn gyda Bato Mato gan Adwaith a Sŵnamii gan Sŵnami yn dynn ar ei sodlau.

Roedd yn sypreis llwyr i Angharad wrth iddi gael ei gwahodd ar raglen Ifan i sgwrsio am gystadleuaeth Cân i Gymru. Ar ddiwedd y sgwrs, torrodd Ifan y newyddion i’r gantores ac roedd yn amlwg yn emosiynol iawn wrth ymateb.

“Dwi ddim yn gwybod beth i ddweud” meddai Angharad wrth ymateb ar raglen Ifan.

“Mae’n meddwl y byd i fi. Dwi mor ddiolchgar i bawb sydd wedi helpu fi ar y ffordd, fi di cal help offerynnol gan mam a dad a Sion a Steve, dwi di cael help gyda’r gwaith celf gan fy wncwl Stephen ac ma Adam di helpu ac Alistair di helpu fi gyda’r ysgrifennu a Todd sydd jyst wedi helpu fi dynnu popeth at ei gilydd a gwneud i bopeth weithio.

“Yn arbennig iawn hefyd, mae fy merch wedi fy ysbrydoli ac mae hi wedi bod yn gefn i fi trwy’r holl broses ma o’r dechrau i’r diwedd, a fyswn i ddim wedi gallu gwneud hyn hebddi hi, a dwi mor lwcus – hi ydy’r number one ffan.”

“Dwi wedi bod ar bedair rhestr fer ac mae wedi bod yn fraint cael fy enw wrth ochr yr artistiaid yma dwi’n eu hedmygu. Diolch i bawb sydd wedi pleidleisio, mae’n meddwl y byd.”

Un wobr oedd ar ôl i’w datgelu wedyn gan Huw Stephens, sef Seren y Sin, a’r enillydd y tro hwn oedd Owain Williams o wefan Klust sy’n gwneud ardderchog i hyrwyddo cerddoriaeth o Gymru.

Diolch i bawb am bleidleisio dros Wobrau’r Selar eleni, a llongyfarchiadau mawr i’r holl enillwyr – dyma nhw’n llawn i chi:

Gwaith Celf Gorau – Sŵnamii – Sŵnami

Artist Unigol Gorau – Mared

Band neu Artist Newydd Gorau – Dom James a Lloyd

Cân Orau (Noddi gan PRS for Music) – Eto – Adwaith

Band Gorau – Adwaith

Seren y Sin – Owain Williams (Klust)

Fideo Cerddoriaeth Gorau – Drama Queen – Tara Bandito

Record Fer Orau – Crescent – Thallo

Record Hir Orau – Seren – Angharad Rhiannon

Gwobr Cyfraniad Arbennig – Lisa Gwilym

Gwobr 2022 – Izzy Rabey