Mae trefnwyr Gŵyl Fach y Fro, sef Menter Iaith Bro Morgannwg, wedi cyhoeddi manylion yr ŵyl eleni, gan gynnwys yr arlwy gerddorol.
Cynhelir yr ŵyl flynyddol ar Ynys y Barri ar ddydd Sadwrn 20 Mai a dyma fydd un o wyliau cerddorol cyntaf yr haf eleni.
Mae tipyn o lein-yp wedi’i gyhoeddi sy’n cynnwys y band Gwilym, Tara Bandito a N’Famady Kouyaté fel prif atyniadau.
Hefyd yn perfformio bydd Hana Lili, Los Blancos, Dom James & Lloyd Lewis, Parisa Fouladi, Dagran Tân ac enillydd diweddar gwobr Record Hir Orau Gwobrau’r Selar, Angharad Rhiannon.