Cyhoeddi Lein-yp Parti Ponty

Mae Gŵyl Parti Ponty ym Mhontypridd wedi cyhoeddi manylion eu harlwy gerddorol eleni. 

Cynhelir yr ŵyl flynyddol gan y Fenter Iaith leol, sef Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, a’r dyddiad eleni ydy 13 Mai gyda’r gweithgareddau’n digwydd ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd. 

Mae’r arlwy gerddorol yn cynnwys perfformiadau gan Wigwam, Dom a Lloyd, Mali Hâf, Ble.Ydyn.Ni a Dadleoli. 

Un enw arall fydd yn dal y llygad ydy Mattoidz sef y band o Sir Benfro oedd yn boblogaidd iawn yn negawd cyntaf y Mileniwm gan ddod i amlygrwydd yn wreiddiol wrth gipio teitl Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 2002, a rhyddhau eu halbwm cyntaf ‘Edrych Yn Well O Bell’ yn 2005. 

Er eu bod nhw’n enwog am gigio’n rheolaidd iawn yn ystod y cyfnod hwnnw, dim ond yn achlysurol iawn maen nhw wedi perfformio fel band dros y blynyddoedd diwethaf.  Er hynny, mae’n amlwg eu bod nhw wedi penderfynu gigio rhywfaint yr haf hwn gan eu bod nhw hefyd yn perfformio yng Ngŵyl Fel ‘na Ma’i yng Nghrymych ar ddydd Sadwrn yma, 6 Mai, hefyd. 

Bydd llwyth o ysgolion lleol yn cymryd rhan yn yr ŵyl hefyd, yn ogystal â Rhosyn Jones, Lucy Jenkins a Martyn Geraint yn ymddangos ar y llwyfan perfformio. 

Mae mynediad i’r digwyddiad am ddim.