Cyhoeddi manylion albwm newydd Gruff Rhys

Mae Gruff Rhys wedi cyhoeddi manylion ei albwm unigol nesaf. Bydd ‘Sadness Sets Me Free’ yn cael ei rhyddhau ar 26 Ionawr 2024 ar label Rough Trade Records.

Mae modd rhag-archebu’r record nawr ac mae’n cynnwys record 7” ychwanegol a llun print wedi’i lofnodi.

I nodi’r newyddion bu i Gruff rhyddhau’r trac cyntaf ‘Celestial Candyfloss’ fel sengl wythnos diwethaf, ar 3 Hydref. 

Mae fideo i gyd-fynd â’r sengl wedi’i greu gan Mark James, sydd hefyd yn gyfrifol am waith celf y record.  Yn ôl Gruff, mae ‘Celestial Candyfloss’ yn gân bop gryno sy’n ymwneud â’r bydysawd, cariad a rhyfel – a threfniant llinynnol gan Gruff ab Arwel. 

Recordiwyd yr albwm yn stiwdio Frette ym Mharis dros ychydig ddyddiau gyda Maxime Kosinetz fu’n peiriannu a chymysgu recordiau diweddar Imarhan a Tinarawen.

Mae Gruff wedi datgelu y bydd yn teithio’n rhyngwladol yn ystod 2024 gan berfformio mewn ambell siop recordiau yn Nghymru a Lloegr i lansio’r albwm.