Mae trefnwyr Gŵyl Cefni yn Llangefni, Ynys Môn wedi cyhoeddi bydd yr ŵyl yn dychwelyd i’w hen leoliad ym Maes Parcio Neuadd y Dref yn Llangefni.
Datgelwyd eisoes bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar 10 Mehefin eleni, ac yn ôl y trefnwyr bydd y lleoliad newydd yn eu galluogi i gynnig ‘mwy o gerddoriaeth, mwy o fwyd, mwy o weithgareddau a mwy o le’. Maes parcio tafarn y Bull fu prif leoliad y llwyfan perfformio dros y blynyddoedd diweddaraf.
Mae trefnwyr Gŵyl Cefni eisoes wedi cyhoeddi enwau’r prif artistiaid cerddorol fydd yn perfformio yn yr ŵyl eleni sef Yws Gwynedd, Bwncath, Ffatri Jam, Meinir Gwilym, Monswn, Leri Ann, Tesni Hughes ac Achlysurol.
Mwy o fanylion yr ŵyl ar dudalen Facebook Gŵyl Cefni.