Cyhoeddi manylion gig Twrw Trwy’r Dydd 2023

Mae Clwb Ifor Bach wedi cyhoeddi manylion eu digwyddiad cerddoriaeth poblogaidd, Twrw Trwy’r Dydd.

Mae’r gig arbennig yma wedi sefydlu ei hun yn Clwb ar benwythnos gŵyl banc mis Mai ers sawl blwyddyn bellach ac yn un mae dilynwyr cerddoriaeth Gymraeg Caerdydd yn edrych ymlaen amdano.

Cynhelir Twrw Trwy’r Dydd ar ddydd Sul 30 Ebrill eleni gyda cherddoriaeth fyw rhwng 7pm a 3am.

Yr artistiaid sydd wedi’u cadarnhau ydy Breichiau Hir, Los Blancos, Gwcci, Eädyth ac Izzy Rabey, Angel Hotel, Crinc, Rhys Dafis a’r Band a Frmand.