Cyhoeddi manylion gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi manylion eu gigs yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llŷn eleni, ac mae’n addo bod yn chwip o wythnos. 

Lleoliad gigs y Gymdeithas eleni fydd Gwesty’r Nanhoron yn Nefyn, ac maen nhw wedi brandio’r gigs wythnos fel ‘Gigs Cae yn Nefyn’, gan gyfeirio nôl at gân boblogaidd y grŵp Anweledig, a’r ŵyl o’r un enw a gynhaliwyd yno am rai blynyddoedd tua throad y Mileniwm. 

Bydd y Gymdeithas yn cynnal gigs bob nos yn ystod wythnos yr Eisteddfod gan ddechrau ar nos Sadwrn 5 Awst pan fydd Chroma yn brif atyniad gyda chefnogaeth gan Ffenest, Hap a Damwain a Bookhouse. 

HMS Morris fydd prif artist nos Sul gyda chefnogaeth gan Ani Glass, Crinc a Mr Phormula. 

Bydd blas lleol iawn i nos Lun gyda’r ffefrynnau o Lŷn, Cowbois Rhos Botwnnog , yn hedleinio a chefnogaeth gan Plu, Tant a Tegid Rhys. 

Barddoniaeth fydd yr arlwy ar y nos Fawrth gyda chriw Bragdy’r Beirdd yn cynnal ‘Parti ar y Pafin’, sydd eto’n gyfeiriad at y gân Anweledig. 

Mae nos Fercher yn addo bod yn dipyn o barti hefyd gydag un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru, Bwncath, yn cloi’r noson gyda chefnogaeth gan Twmffat, sef y band sy’n cael eu harwain gan brif ganwr Anweledig, Ceri Cunnington. 

Roedd denu The Joy Formidable, band sydd wedi cael llwyddiant rhyngwladol ers sawl blwyddyn, i berfformio yn eu gigs yn Eisteddfod Tregaron llynedd yn dipyn o sgŵp i’r Gymdeithas. Bydd y band roc, a ddaw yn wreiddiol o’r Wyddgrug, yn ôl ar y nos Iau eleni ac yn arwain noson sydd hefyd yn cynnwys Papur Wal, Pys Melyn a Mali Hâf. 

Bydd tipyn o gyffro am gig nos Wener hefyd wrth i brosiect diweddaraf Mark Roberts, MR, berfformio gyda chefnogaeth gan Los Blancos, Maes Parcio a’r band o Lŷn a ffurfiodd yn y 90au, Nar, wneud comeback

Bob Delyn ar Ebillion fydd yn cloi’r wythnos yn eu ffordd ddihafal, gyda chefnogaeth gref gan Gai Toms a’r Band, Estella a’r band ifanc, Mynadd. 

Mae tocynnau gigs yr wythnos bellach ar werth ar wefan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.