Cyhoeddi manylion Gŵyl NAWR

Mae Menter Iaith Abertawe a’r hyrwyddwyr cerddoriaeth amgen, NAWR, wedi cyhoeddi manylion gŵyl undydd a gynhelir fis Tachwedd.

Bydd Gŵyl NAWR yn digwydd yn lleoliad Tŷ Tawe yng nghanol dinas Abertawe ar ddydd Sadwrn 11 Tachwedd.

Hyd yma mae’r perfformwyr sydd wedi’u cyhoeddi’n cynnwys Pat Morgan (Datblygu), Ani Glass ac R.Seiliog.

Mae tocynnau ar werth nawr am £8.