Cyhoeddi manylion gŵyl newydd yn Aberystwyth

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a FOCUS Wales wedi cyhoeddi manylion gŵyl ‘sain weledol’ newydd a fydd yn cael ei chynnal yn Aber, ac ar arfordir Gorllewin Cymru, ym mis Chwefror. 

‘Trawsnewid : Transform’ ydy enw’r digwyddiad newydd sy’n cael ei ddisgrifio fel gŵyl unigryw o archwilio clyweledol. Fe’i gynhelir ar 2 – 3 Chwefror 2024. 

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth bellach yn ei bumed degawd, a dyma fydd prif leoliad yr ŵyl. Yn ôl y trefnwyr bydd pensaernïaeth unigryw yr adeilad, ac awyrgylch unigryw yr ardal yn benthyg ei hun yn berffaith i’r digwyddiad fydd yn cyfuno’r gorau o gerddoriaeth newydd, deunydd gweledol a ieithoedd.   

Mae Canolfan y Celfyddydau a FOCUS Wales wedi gwahodd detholiad o artistiaid amlycaf Cymru i berfformio yn yr ŵyl. Mae’r tîm yn gweithio gydag artistiaid lleol a hyrwyddwyr ledled y rhanbarth.   

 Prif atyniadau’r ŵyl ym mis Chwefror fydd yr artist a enwebwyd ar gyfer Gwobr Mercury llynedd, Gwenno, ac  un o artistiaid cerddorol amlycaf a mwyaf gweithgar Cymru, Gruff Rhys. 

Mae’r lein-yp fel arall yn cynnwys llwyth o artistiaid sy’n cynrychioli safon uchel y gerddoriaeth sy’n dod allan o Gymru ar hyn o bryd gan gynnwys  Adwaith, Gallops, Cerys Hafana, Sage Todz, HMS Morris, Skunkadelic, Eadyth, Ynys, The Family Battenberg, Worldcub, a llawer mwy.

Rydym yn hynod  falch i fod yn gweithio gyda’n ffrindiau yn FOCUS Wales i gyflwyno’r ŵyl Trawsnewid am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2023” meddai Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Louise Amery. 

“Rydym yn edrych ymlaen at ddathliad go iawn o sain a llun dros y penwythnos gyda lein-yp anhygoel o gerddorion ac artistiaid o bob rhan o Gymru.” 

 Mae tocynnau ar gyfer gŵyl Trawsnewid : Transform ar gael i’w prynu nawr ar www.aberystwythartscentre.co.uk