Cyhoeddi Manylion Gŵyl Tawe 2023

Mae trefnwyr gŵyl iaith Gymraeg Abertawe,  Gŵyl Tawe, wedi cyhoeddi manylion y digwyddiad a gynhelir ar ddydd Sadwrn 10 Mehefin eleni.

Yn dilyn dwy flynedd gychwynnol tu allan i dafarn y Railway yng Nghilâ, bydd yr ŵyl yn ehangu ac yn symud i leoliad newydd eleni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ym Marina Abertawe.

Yn ôl y trefnwyr, bydd yr ŵyl unwaith eto’n gweld perfformiadau gan lu o artistiaid cyfoes sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg mewn ffyrdd amrywiol a chyffrous. 

Prif artist cerddorol yr ŵyl, ac yn cloi’r noson bydd Adwaith – y band sy’n hanu o Gaerfyrddin ac a ryddhaodd eu hail albwm ‘Bato Mato’ ar Recordiau Libertino yn ystod 2022. Hwy hefyd wrth gwrs oedd enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, ac erbyn hyn maent wedi mwynhau cyfres o deithiau, set Glastonbury o fri, a slotiau yn cefnogi Manic Street Preachers ac IDLES. 

Hefyd yn perfformio ar draws prif lwyfan awyr agored yr ŵyl a’r ail lwyfan yng nghanol yr amgueddfa bydd Ani Glass, Hyll, Lloyd x Dom + Don, Los Blancos, MR, Sage Todz, She’s Got Spies, SYBS, a The Gentle Good, gyda mwy o enwau eto i’w cyhoeddi.

Bydd mynediad i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, gyda’r amgueddfa yn agor am 10 y bore a’r prif lwyfannau cerddoriaeth yn rhedeg rhwng canol dydd ac wyth y nos. 

Yn ystod bore’r digwyddiad, bydd sioe theatr ryngweithiol i deuluoedd gan ‘Familia de la Noche’, yn ogystal ag amryw o berfformiadau gan ysgolion lleol. Dros gyfnod y diwrnod, bydd hefyd cyfleoedd i fwynhau sesiynau stori a chân gan ‘Cymraeg i Blant’, yn ogystal â derbyn gwersi blasu gan Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, a gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe.