Mae Al Lewis wedi cyhoeddi manylion ei daith o gigs fydd yn cael eu cynnal y mis Chwefror 2024.
Mae Al eisoes wedi datgelu y bydd yn rhyddhau ei albwm diweddaraf, ‘Fifteen Years’ yn y flwyddyn newydd, a bydd yn perfformio mewn cyfres o gigs yn ystod mis Chwefror i hyrwyddo’r record newydd gan ymweld â Bangor, Aberteifi, Pwllheli a Wrecsam yng Nghymru, ynghyd â Lerpwl, Birmingham, Manceinion, Sheffield, Brighton a Llundain yn Lloegr.
Rhestr lawn gigs taith Al Lewis:
1 Chwefror – Prohibition Recording Studios, Lerpwl
2 Chwefror – Blue Sky Cafe, Bangor
3 Chwefror – Theatr Mwldan, Aberteifi
7 Chwefror – Kitchen Garden Cafe, Birmingham
8 Chwefror – The Kings Arms, Salford, Manceinion
9 Chwefror – Cafe#9, Sheffield
10 Chwefror – Neuadd Dwyfor, Pwllheli
14 Chwefror – The Folklore Rooms, Brighton
15 Chwefror – St Pancras Old Church Music, Llundain
16 Chwefror – Tŷ Pawb, Wrecsam
Dolen i archebu tocynnau: https://www.allewismusic.com/click-here