Cyhoeddi manylion taith Cowbois Rhos Botwnnog

Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi datgelu y byddan nhw’n cynnal cyfres o gigs i gyd-fynd â rhyddhau eu halbwm newydd yn ystod gwanwyn 2024. 

Mae’r band eisoes wedi cyhoeddi ers yr haf eu bod nhw’n bwriadu rhyddhau eu halbwm stiwdio diweddaraf yn ystod 2024. 

Daeth y newyddion hwnnw wrth iddynt ryddhau dwy sengl newydd sef ‘Clawdd Eithin’ ym mis Gorffennaf ac yna ‘Adenydd’ ar ddechrau mis Awst. 

Enw’r albwm newydd ydy ‘Mynd â’r Tŷ am Dro’, a dyma fydd pumed albwm stiwdio y band, er iddynt ryddhau albwm oedd yn gasgliad o ganeuon byw ym mis Tachwedd. Mae saith blynedd ers rhyddhau eu halbwm stiwdio diweddaraf sef ‘IV’, a ryddhawyd ar label Sbrigyn Ymborth yn 2016. 

Er mwyn lansio’r albwm diweddaraf, bydd Cowbois yn mynd ar daith gan ddechrau gyda gig yn y Galeri, Caernarfon ar 8 Mawrth. Byddan nhw wedyn yn ymweld ag Aberystwyth, Caerdydd, Y Bala, Abertawe, Llanfairfechan a Dinbych cyn cloi’r daith ym mro eu mebyd gyda gig yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli ar 20 Ebrill. 

Dyma fydd taith gyntaf y band ers 2020, pan fu’n rhaid torri’r gyfres o gigs yn fyr o ganlyniad i’r clo mawr. Yn ôl y band fer fyddan nhw’n perfformio deunydd newydd sbon yn ogystal â’r hen ffefrynnau, caneuon gan artistiaid eraill, a chaneuon gwerin. 

Mae manylion tocynnau’r gigs i ddilyn.

 

Dyddiadau llawn taith 2024 Cowbois Rhos Botwnnog: 

8 Mawrth – Galeri, Caernarfon

9 Mawrth – Amgueddfa Ceredigion Museum, Aberystwyth

15 Mawrth – Clwb Ifor Bach, Caerdydd

22 Mawrth  – Theatr Derek Williams, Y Bala

23 Mawrth – The Bunkhouse, Abertawe

12 Ebrill – Neuadd y Dref, Llanfairfechan

19 Ebrill – Theatr Twm o’r Nant, Dinbych

20 Ebrill – Neuadd Dwyfor, Pwllheli