Mae cylchgrawn a gwefan gerddoriaeth gyfoes Y Selar wedi cyhoeddi record feinyl aml-gyfrannog newydd fydd ar gael yn ecsgliwsif yn y lle cyntaf i aelodau Clwb Selar.
Mae’r record, ‘Selar 1’, yn cynnwys deg o draciau gan ddeg o artistiaid gwahanol – y mwyafrif ohonynt wedi eu rhyddhau’n ddigidol yn unig cyn hyn.
Ymysg y caneuon hyn mae rhai gan fandiau sefydledig fel Sŵnami, Papur Wal a Gwilym, ynghyd a thraciau gan artistiaid mwy newydd fel magi., Tacsidermi ac Y Dail.
Nifer cyfyngedig o’r recordiau sydd ar gael, bydd y rhan fwyaf o’r rhain yn cael eu hanfon yn syth i aelodau premiwm Clwb Selar, sef clwb cefnogwyr y cylchgrawn. Bydd nifer fach o gopïau’n weddill, a rhain yn cael eu defnyddio fel gwobrau cystadlaethau, ac ambell un i’w prynu wyneb yn wyneb (manylion i ddilyn yn fuan).
Y record gyntaf, ond nid yr olaf
Dyma’r record feinyl gyntaf i’w cyhoeddi gan Y Selar, ond nid yr olaf, ac mae’r tîm eisoes yn paratoi ar gyfer y nesaf gan roi galwad am artistiaid sydd am eu cynnwys ar y casgliad ‘Selar 2’.
“Roedd recordiau aml-gyfrannog yn bethau ddigon cyffredin yn y gorffennol gan gylchgronau Eingl-Americanaidd, ac mae ‘na sawl clasur wedi’u rhyddhau yn y Gymraeg hefyd dros y degawdau” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.
“Rydan ni wedi bod yn awyddus i ddechrau cyhoeddi recordiau gyda chaneuon gan artistiaid amrywiol ers tro byd, ac mae Clwb Selar wedi cynnig cyfle i ni allu gwneud hynny.
“Mae ‘na elfen o nostalgia ynghlwm â lot o brosiectau ymylol Y Selar ac mae hynny’n wir gyda’r record yma – mae’n deg dweud bod rhamant recordiau fel ‘Cam o’r Tywyllwch’ gan Recordiau Anhrefn, ‘Ap Elvis’ ac ‘O’r Gad’ gan Recordiau Ankst a hyd yn oed y casgliad ‘Lleisiau’ gan fudiad Adfer ym 1975 wedi dylanwadu ar y syniad yma.
“Mae feinyl yn boblogaidd iawn unwaith eto erbyn hyn, ac mae cyhoeddi’r record gyntaf yma wedi bod yn broses hir, felly mae’n rhyddhad gweld y casgliad yn glanio o’r diwedd. Am y rheswm hynny rydan ni eisoes yn dechrau meddwl am y casgliad nesaf ac yn galw ar unrhyw artistiaid sy’n awyddus i gael eu hystyried ar gyfer y record i gysylltu.
“Gyda chymaint o gerddoriaeth yn cael ei ryddhau’n ddigidol erbyn hyn, y bwriad ydy gallu rhoi mwy o gerddoriaeth ar fformat y purydd cerddorol, sef feinyl, ac mae’r caneuon sydd ar y casgliad yma’n sicr yn haeddu bod ar y platfform hyfryd hwnnw.”
Gwaith celf unigryw gan Lucy
Mae’r Selar hefyd wedi penderfynu cefnogi artist ifanc arall fel rhan o’r prosiect sef y dylunydd Lucy Jenkins (@drawn_to_hockey) sydd wedi ei chomisynnu i greu gwaith celf unigryw y casgliad.
Cafodd y caneuon eu hail-fastro ar gyfer y casgliad gan Gethin John, Hafod Mastering.
“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r holl artisitiad a labeli sydd wedi bod yn gefnogol i’r prosiect, a dwi’n edrych ymlaen at ddechrau gweithio ar record ‘Selar 2’ a ‘Selar 3’” ychwanegodd Owain Schiavone.
Rhestr lawn traciau Selar 1:
- Theatr – Sŵnami
- Llyn Llawenydd – Papur Wal
- Tyfu – magi.
- O’n i’n Meddwl Bod Ti’n Mynd i fod yn Wahanol – Y Dail
- Rwy’n Crwydro – Sister Wives
- Dewisiadau Negyddol – Shamoniks x Eädyth
- Ble Pierre – Tacsidermi
- Gwenyn – Kathod
- 50au – Gwilym
- dall. – skylrk
Os ydych chi eisiau copi o record feinyl gwych Selar 1, ymlaelodwch â Clwb Selar – lefel Gitarydd Blaen neu uwch.