Mae Y Selar wedi datgelu rhestrau byr Gwobrau’r Selar eleni, a bydd yr holl enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar raglenni amrywiol BBC Radio Cymru dros yr wythnos nesaf.
Yn ôl yr arfer mae’r mwyafrif o enillwyr y categorïau wedi’u dewis fel rhan o bleidlais gyhoeddus. Yr unig eithriadau ydy’r Wobr Cyfraniad Arbennig a Gwobr 2022 sy’n cael eu dewis gan dîm golygyddol Y Selar.
Mae enillwyr y ddwy wobr hynny wedi’u cyhoeddi ar Radio Cymru wythnos diwethaf gyda’r cyflwynydd radio, Lisa Gwilym, yn derbyn y Wobr Cyfraniad Arbennig, a’r rapiwr aml-dalentog Izzy Rabey yn derbyn Gwobr 2022.
Dros yr wythnos nesaf, gan ddechrau ar ddydd Llun 20 Chwefror, bydd enillwyr y 9 gwobr arall yn cael eu datgelu ar raglenni’r orsaf genedlaethol.
Cyn hynny, mae Y Selar wedi bod yn rhannu’r rhestrau byr o’r tri enw ddaeth i’r brig ym mhob categori.
Gwaith Celf Gorau
Deuddeg – Sywel Nyw
Seren – Angharad Rhiannon
Sŵnamii – Sŵnami
Artist Unigol Gorau
Mared
Cerys Hafana
Elis Derby
Band neu Artist Newydd Gorau
Angharad Rhiannon
Dom James a Lloyd
Melda Lois
Cân Orau (Noddi gan PRS for Music)
Rhedeg Ata Ti – Angharad Rhiannon
Eto – Adwaith
Bricsen Arall – Los Blancos
Band Gorau
Bwncath
Sŵnami
Adwaith
Seren y Sin
Owain Williams (Klust)
Sian Eleri
Elan Evans
Fideo Cerddoriaeth Gorau
Byw efo Hi – Elis Derby
Cynbohir – Gwilym x Hana Lili
Drama Queen – Tara Bandito
Record Fer Orau
Mali Hâf EP
Ynys Alys EP
Crescent – Thallo
Llygredd Gweledol – Chroma
*2 o’r rhain yn gwbl gyfartal yn y trydydd safle
Record Hir Orau
Sŵnamii – Sŵnami
Seren – Angharad Rhiannon
Bato Mato – Adwaith