Cyhoeddi rhifyn Haf 2023 cylchgrawn Y Selar 

Mae rhifyn diweddaraf o gylchgrawn cerddoriaeth gyfoes Y Selar wedi glanio ac ar gael nawr yn rhad ac am ddim o’r mannau arferol.

Cyhoeddwyd rhifyn diweddaraf Y Selar mewn pryd ar gyfer wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, ac un o fandiau amlycaf yr wythnos honno, Bwncath, sydd ar glawr y rhifyn newydd. 

Mae cyfweliad gyda’r pedwarawd gwerinol rhwng cloriau’r rhifyn, ynghyd â  chyfweliad hefyd gyda’r gantores Glain Rhys a ryddhaodd ei hail albwm, ‘Pan Ddaw’r Dydd i Ben’ yn ddiweddar. 

Ceir Sgwrs Sydyn hefyd gyda Mr Phormula am ei albwm ‘A.W.D.L. (Artist With Dual Languag)’ ac erthygl nodwedd yn trafod ‘Cerddoriaeth Cwiyr’ gan Lois Gwenllian a fu’n sgwrsio’n benodol gyda’r artist Bendigaydfran. 

Mae’r rhifyn newydd yn rhoi sylw i albwm newydd Gwilym a ryddhawyd ar ffurf dau EP, a record aml-gyfrannog ‘Nid yw Cymru ar Werth’ sydd wedi’i gyhoeddi gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Ceir yn y rhifyn diweddaraf hefyd golofn arbennig gan Osian Huw Williams yn trafod degawd o fodolaeth ei fand, Candelas a darn ‘Newydd ar y Sîn’ yn rhoi sylw i artistiaid Brwydr y Bandiau’r Eisteddfod Genedlaethol eleni. 

Roedd modd cael gafael ar gopi caled o’r Selar ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol wythnos diwethaf, ac fe fydd yn cael ei ddosbarthu i’r holl fannau arferol. Mae hefyd ar gael i’w ddarllen yn ddigidol