Mae tocynnau bellach ar gael ar gyfer Gŵyl Ffrinj Abertawe, fydd yn cael ei chynnal ar benwythnos y 5-7 o Hydref ac ar y 14 Hydref.
Ymhlith y don gyntaf o artistiaid i gael eu cyhoeddi, mae artistiaid Cymreig a Chymraeg eu hiaith, gan gynnwys Band Pres Llareggub, Bwca, Hudo, Lo-fi Jones, Achlysurol, Tesni Hughes, Mr Phormula, Francis Rees a Ci Gofod.
Mae manylion pellach ar wefan Gŵyl Ffrinj Abertawe.