Cyngherddau dathlu Dafydd Iwan 

Bydd y cerddor amlwg Dafydd Iwan yn cynnal cyfres o gyngherddau arbennig ym mis Tachwedd er mwyn nodi ei ben-blwydd yn 80 oed, ynghyd â’r ffaith ei bod yn 40 blynedd ers rhyddhau ei gân enwocaf, ‘Yma o Hyd’.

Bydd tri chyngerdd i gyd a rheiny ar nosweithiau olynol rhwng 9 a 11 Tachwedd yn y Galeri yng Nghaernarfon.

Bydd cefnogaeth ar y noson gyntaf ar 9 Tachwedd gan Ar Log a Mynediad am Ddim, yna ar 10 Tachwedd bydd y band Pedair yn ymuno ar y llwyfan, cyn i’r gyfres o dri gig gloi ar 11 Tachwedd gyda chefnogaeth gan Bwncath.

Mae tocynnau ar werth nawr trwy wefan y Galeri.