Dadleoli’n rhyddhau eu hail sengl

Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Dadleoli, wedi rhyddhau eu hail sengl – ‘Haf i Ti’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau JigCal. 

Ffurfiwyd Dadleoli yn ystod haf 2022 yn dilyn prosiect ‘Yn Cyflwyno’ gan ŵyl Tafwyl. Ers hynny mae’r pumawd wedi chwarae gigs yn Clwb Ifor Bach, Gŵyl Triban a Chanolfan Yr Urdd. 

Bu iddynt hefyd lansio eu sengl gyntaf, ‘Cefnogi Cymru’, yn y Paget Rooms wrth gefnogi neb llai na Dafydd Iwan. 

Efan (prif-leisydd), Jac (bas), Tom (gitâr/sax), Caleb (dryms) a Jake (allweddellau) yw aelodau’r band ac yn ddiweddar maent wedi bod yn datblygu eu sain gyda’r cynhyrchydd Mei Gwynedd. 

Steil newydd

Yn fand ifanc o Gaerdydd, mae dylanwadau Dadleoli yn cynnwys Gwilym, Y Cledrau, 1975 a Bastille. 

“Mae’r gân yma’n arbrofi gyda steil newydd o gerddoriaeth i’r band ac rydym wedi mwynhau’r broses o’i hysgrifennu” eglura Efan.  

“Ar ôl gweld llwyddiant ein sengl gyntaf ‘Cefnogi Cymru’, roedd y band wedi darganfod steil oedd yn gweithio i ni ac rydym yn gyffrous i ysgrifennu mwy yn yr un arddull.”

Y newyddion pellach gan Dadleoli ydy fod y band yn paratoi i ryddhau eu EP cyntaf a fydd allan ar 14 Gorffennaf. ‘Diwrnodau Hâf’ ydy enw’r EP fydd yn cynnwys pedwar trac i gyd sef y gân sy’n rhannu enw’r EP, ‘Tro Cyntaf, y sengl ddiweddaraf ‘Haf i Ti’ a ‘Corsa 13’.