Daf Jones yn rhyddhau ‘Pry Cop’

Mae’r cerddor o Fôn, Daf Jones, wedi rhyddhau ei sengl diweddaraf ers dydd Iau diwethaf, 25 Mai. Hon meddai ydy’r a’r ail sengl o’i albwm nesaf.

‘Pry Cop’ ydy enw’r sengl newydd ac mae’n ddilyniant i’r trac ‘Paid Gadael Fynd’ a ryddhawyd ganddo yn gynharach yn y flwyddyn.

Er hynny, mae ‘Pry Cop’ yn hollol wahanol i’w sengl ddiwethaf yn ôl y cerddor. 

“Mae’n gân roc trwm gyda dwy ystyr iddi” eglura Daf Jones. 

“Efallai bod y teitl yn sôn ‘Pry Cop’ ond y gwir ystyr yw y wê a’r peryglon o hacio ac yn y blaen.”