Dafydd Hedd yn ymateb i argyfwng sbeicio diodydd

Mae Dafydd Hedd wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 15 Medi. 

‘Bia y Nos’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan y cerddor ifanc o Fethesda, ac mae allan ar label Bryn Rock. 

Daw’r sengl fel rhan o ffrwyth llafur ymweliad diweddar Dafydd a’i fand gyda Stwdio Un ym Methesda. 

Mae’r sengl yn dilyn y ddwy sengl ddiweddar ‘Colli Ar Fy Hun’ (Ailgymysgiad FRMAND) a ‘Chwarel Biws’ gan y cerddor cynhyrchiol.  

“Ysgrifennais ‘Bia Y Nos’ flwyddyn yn ôl, yng nghanol yr argyfwng sbeicio diodydd, i fagu hyder dioddefwyr ac anfon neges” eglura Dafydd. 

“Dylai pawb allu mwynhau noson allan ddim ots pwy ydyn nhw. Roedd yr argyfwng yn ofnadwy ym Mryste, lle rwy’n fyfyriwr, felly fe wnes i drosglwyddo fy rhwystredigaeth ail-law yn uniongyrchol i’r gân hon.

“Yn gerddorol, mae ganddo deimlad tebyg i Radiohead, Declan McKenna, CHROMA, Mellt, Red Hot Chilli Peppers a Sam Fender” ychwanega’r cerddor.  

“Mae’n nodweddiadol o’n naws indie ‘chill’ sy’n datblygu, yn enwedig lle mae’r alawon gitâr gwahanol yn gorwedd ar ben ei gilydd. O ran themâu’r geiriau, mae’n dadansoddi anghyfiawnder cymdeithasol, diogelwch, cryfder cymunedol a’r syniad fod ’na bobl yn edrych allan amdanoch.”