Dafydd Owain yn agor y drws i arallfyd ‘Uwch Dros y Pysgod’

Geiriau: Gruffudd ab Owain

 

Mae’n ddiwedd prynhawn dydd Sadwrn yr Ŵyl Fwyd yng Nghaernarfon a theimlad o’r haf yn hofran ar awel y Fenai.

Ar y llwyfan yn cloi arlwy gerddorol y diwrnod mae Ciwb a’u cyfyrs ffynci o ganeuon nostaljig gan y pedwarawd ffurfiwyd yn ystod y clo mawr: Elis Derby, Marged Gwenllian, Gethin Griffiths a Carwyn Williams. Ar gyfer bron pob cân, mae gwestai o gantor(es) yn ymuno â nhw.

Un o’r gwesteion lwyddodd i fod yn bresennol oedd Dafydd Owain, ac yntau’n lleisio un o ganeuon mwyaf adnabyddus y set sef ‘Ble’r aeth yr haul?’.

Dyma gerddor sydd wedi bod yn amlwg ei bresenoldeb ar y sîn dros y blynyddoedd, gan chwarae ym mandiau Omaloma, Palenco ac Eitha Tal Ffranco i enwi ond tri.

Tamaid bychan iawn i aros pryd gawson ni ar albwm Ciwb (Wyt Ti’n Meddwl Fod o Wedi Darfod, Sain, 2021) ohono’n serennu fel artist unigol, ond ers hynny, mae o wedi bod yn cynnig blas pellach i ni o’i brosiect solo.

Cafwyd ambell sengl yn araf bach dros fisoedd agoriadol eleni, wrth i ‘Uwch Dros y Pysgod’, ‘Gan Gwaith’ a ‘Llongyfarchiadau Mawr’ swyno’n clustiau.

Bellach, mae albwm gyfan o’i ganeuon wedi ei rhyddhau, a hynny ar label I KA CHING ar 17 Mai, a gigs lansio yn Galeri Caernarfon a Chapter wedi rhoi llwyfan cynnar i’r cynnyrch.

Mae’n record sy’n llawn sŵn ‘melancolipop’ sy’n sôn am fywyd mewn ffordd hynod greadigol, gan selio’r cyfan mewn pentref dychmygol yn debyg i’r rhai a geir ar raglenni teledu plant.

Mewn cyfnod prysur o ryddhau, hyrwyddo, gigio a mynd ar benwythnos stag, mi lwyddodd rywsud i ddod o hyd i amser i ateb cwestiynau’r Selar ynghylch yr albwm, ‘Uwch Dros y Pysgod’.

 

Disgrifia’r record i ni mewn brawddeg.

Dro chwerw-felys mewn i fyd dychmygol go iawn. 

 

Dwi’n meddwl ‘mod i wedi clywed fod egin syniad ambell un o’r caneuon wedi dod atat ti flynyddoedd maith yn ôl ac felly mae hwn yn amlwg yn brosiect sydd wedi bod yn fwy hir-dymor. Faint o ryddhad wyt ti’n ei deimlo o fod wedi’i ryddhau o i’r byd? Neu, i aralleirio, faint o deimlad o gyflawniad?

Ti wedi clywed yn iawn i ryw raddau mod i wedi ‘cychwyn’ yr albwm flynyddoedd maith yn ôl. Cyfansoddwyd y gân Uwch Dros y Pysgod dros ddeng mlynedd yn ôl, er enghraifft. Ond doedd ‘na ddim bwriad i greu albwm o fath yn y byd adeg hynny. Dim ond yn ystod y flwyddyn-ddwy diwethaf y daeth y bwriad o gasglu caneuon ynghyd i greu albwm solo a thrwy hynny roi amser (ac ymdrech!) mewn i’r syniad.

Bosib ’mod i am swnio’n reit apathetig yn hyn o beth ond faswn i ddim yn deud mod i’n teimlo rhyddhad mawr na chwaith cyflawniad o fod wedi rhyddhau’r gwaith. Wrth gwrs, dw i’n hynod hapus efo’r canlyniad ac yn hynod falch fod pobl i weld yn ei mwynhau hi. Ond doedd gen i ddim syniad o gwbwl un ffordd neu’r llall o be’ i ddisgwyl a thrwy hynny be’ fasa’n cyfrif fel teimlad o gyflawniad neu ryddhad! Chydig bach o pynt/siot yn y tywyllwch oedd yr holl beth am wn ni!

 

I ba raddau fyset ti’n galw ‘Uwch Dros y Pysgod’ yn albwm cysyniadol (concept album)? Hynny yw, pa mor greiddiol ydy’r syniad a’r delweddau yma o bentref dychmygol, perffaith, nostaljig bron?

Dw i wedi pendroni dipyn p’un ai ydi’r albwm yn un cysyniadol neu beidio fy hun ac, o bosib, fod yr ateb yn ddibynnol ar be’ ‘di diffiniad rhywun o albwm cysyniadol. 

Dydi o ddim yn albwm cysyniadol yn yr ystyr fod stori a naratif i’w dilyn drwyddi ond mae’na ‘gysyniad’ neu o bosib cyd-destun go fwriadol i’r holl beth. Dw i’n meddwl fod y trac-deitl ‘Uwch Dros y Pysgod’ yn symio fyny’r cysyniad sydd gen i yn fy mhen yn reit dda. Mae hi’n gân bop ysgafn, ‘perffaith’ a diniwed ond mae’r geiriau’n fwriadol tynnu’n groes i deimlad hynci-dori’r gerddoriaeth – mae’r penillion yn sôn am dor-calon ymysg themâu dipyn fwy tywyll na hynny. Felly dw i’n meddwl mai’r union gyfochriad (juxtapositon) yma ydi ‘cysyniad’ yr albwm.

Ac wrth gwrs, does ’na’m albwm gwerth ei halen heb ganeuon ‘trist’. A dw i’n gweld y caneuon ‘trist’ ar yr albwm drwy’r ‘lens’ yma, y lens hynci-dori. Ella achos eu bod nhw’n haws eu stumogi a’u canu dan ymbarél nostaljic/perffaith Uwch Dros y Pysgod. Fe ddisgrifiodd ffrind agos i mi’r albwm fel byd chwerw-felys a dw i’n hoff o’r disgrifiad yna. 

Doeddwn i chwaith ddim eisiau creu albwm oedd jesd yn ‘rhestr o ganeuon’ dim bod dim byd mawr o’i le efo hynny. Ond roeddwn i wedi mynd ati’n fwriadol i sgwennu ‘albwm’ yn hytrach na chaneuon a thrwy hynny dw i wedi dibynnu’n fwy ar gysyniad yr holl beth o fewn ac o amgylch y caneuon.

Tu hwnt i hynny, mae cysyniad pentref Uwch Dros y Pysgod ei hun yn dod o raglenni plant fel Sam Tân a Joshua Jones—rhaglenni oeddwn i’n arfer eu gwylio’n ddeddfol pan yn blentyn a’n cymryd cysur o’u naratifau fformiwlaig. Doedd ‘na fawr ots be o’dd yn digwydd yn Pontypandy, nag oedd? O’dd popeth yn cael ei glymu’n dwt ac yn daclus ar y diwedd yn barod ar gyfer y bennod nesaf. Reset! Ond, wrth gwrs, dydi petha ddim o reidrwydd yn digwydd fel’na go iawn. Felly oeddwn i’n hoff o’r cyfleon oedd cysyniad fel Uwch Dros y Pysgod yn ei roi i ysgafnhau rhai o themâu’r albwm.

Ma’n eitha od mewn ffordd achos dw i’n gweld lot o gysylltiadau amrywiol efo sut mae cysyniadaeth yr albwm wedi dod at ei gilydd. Roedd Nain yn awdures llyfrau i blant, er enghraifft, wedi ysgrifennu pentyrra o lyfra’ i blant bach a’r rhai yn eu harddegau. Bosib fod hynny wedi sbarduno ‘chydig ar gysyniad yr holl beth. Pwy a ŵyr!

 

Pam rhoi pwyslais ar y delweddau? Faint o ran mae’r fideos cerddoriaeth yn chwarae yn hynny o beth?

Dw i’n meddwl mod i wedi gorfod dibynnu eitha’ dipyn ar lyrics i allu cyflawni delweddau amrywiol drwy gydol yr albwm, a thrwy hynny, chwarae ar y cysyniad yn gyffredinol. Blynyddoedd maith yn ôl, roeddwn i’n sgwennu caneuon allan o ddifyrrwch sŵn a melodi heb roi fawr o sylw i’r geiriau—cur pen ar ddiwedd y broses oedd geiriau! Faswn i ddim yn deud mod i’n fardd o bell ffordd ond dw i’n dechra’ gweld fy hun yn mwynhau ysgrifennu geiriau dipyn mwy ac hefyd yn gweld fy hun yn sgrifennu geiriau cyn hyd yn oed taro nodyn ar offeryn, rhywbeth hollol estron i mi. 

Faswn i ddim yn deud mod i wedi rhoi pwyslais bwriadol ar ddelweddu yn yr albwm. Dw i’n meddwl ‘na dyna oedd y steil ddatblygodd a’r steil oedd yn siwtio. Dw i’n berson sy’n hoff iawn o ddydd-freuddwydio a gwylio’r byd yn mynd heibio. Dw i’n gweld rhywbeth hynod o therapiwtig am y peth ac wrth wylio’r byd yn mynd heibio, people-watsho, clustfeinio mewn ffordd, dw i’n cael lot o fy ngeiriau. Ond yn rhyfedd ddigon, dw i’n people-watsho fy hun hefyd felly dw i’n cael digon o goodies allan o’r petha gwirion fydda i’n dueddol o’i wneud a’i d’eud.

Dw i’n meddwl fod rhyddhau fideo miwsig i Uwch Dros y Pysgod wedi bod yn lot o help. Cyfle od mewn ffordd achos mae fideo o’r fath yn gyfle eitha prin i roi rhywbeth gweledol yn ei le sy’n atgyfnerthu’r delweddau sydd du ôl i gân neu gysyniad. Mi oedd hi’n broses hyfryd cydweithio efo Cai Dyfan, Efa Dyfan, Dafydd Huws a Lŵp i greu’r fideo. Mi wnaeth eu gwaith a’u gweledigaeth dynnu pobl yn agosach at fyd Uwch Dros y Pysgod. Yr unig brîff oedd gen i efo’r fideo oedd creu rhywbeth oedd yn codi gwên a dw i’n meddwl fod y criw gweithgar wedi llawn lwyddo ar hynny.

 

Un peth sy’n dod i’r amlwg i fi, nid yn unig o ran y delweddu a’r cysyniad y tu ôl iddo fo ond hefyd wrth wrando ar ambell gân fel ‘Y Dre’ yn enwedig ydi’r ymdeimlad o le a lleoliad sydd i’w gael. Oedd hynny’n fwriadol?

I ryw raddau, oedd. Mae cnewyllyn cysyniad yr albwm yn seiliedig ar le dychmygol felly mae’na gyfeiriadau weddol fwriadol i leoedd ar yr albwm. Mae Cig a Gwaed yng Nghwm Saiana yn un enghraifft. Lle dychmygol ym myd Uwch Dros y Pysgod ydi Cwm Saiana. Mae ‘Saiana’ yn anagram gwarthus dw i wedi ei greu o’r gair ‘anian’ sef ein ‘hanfod’ ni, ein ‘natur’ ni (dw i wedi ychwanegu ‘s’ i’r angaram a ’di dyblu fyny ar lythrennau eraill! Pam lai! Trwydded artistig). Felly mae Cwm Saiana yn rhyw fath o fetaffor cawslyd i’r syniad o ddihangfa dychmygol perffaith.

Dafydd OwainMae Y Dre ar y llaw arall yn gân am le go iawn, yn benodol Caernarfon, fy nhref genedigol. Fe bendronais eitha’ dipyn am roi honno ar yr albwm gan ei bod hi o bosib yn weddol amlwg i rai mai cân am y Gaer enwog ydi hi a thrwy hynny y byddai’n ‘torri byd’ yr albwm. Ond yn y diwedd mi wnes i fynd amdani. Yn bennaf achos dw i’n meddwl ei bod hi bron yn rhyw fath o Uwch Dros y Pysgod ‘once-removed’—rhyw Uwch Dros y Pysgod ‘go iawn’.

Dw i wrth fy modd efo ymdeimlad o le fel ti’n grybwyll. Dw i’n meddwl bod ein ‘lle’ yn ddylanwad mawr arnom ni fel pobol a bod pobol yn ddylanwad mawr ar le. 

 

Pa heriau newydd neu brofiadau newydd efallai wyt ti wedi dod ar eu traws wrth gyfansoddi a chreu’n unigol o’i gymharu â bod mewn band? Ar yr un pryd, pa mor bwysig ydy’r cerddorion eraill sy’n ymddangos ar yr albwm o ran y gerddoriaeth a’r cysyniad?

Ges i bowt go lew o imposter syndrome efo’r holl broses a bod yn onest. Ac o’dd hwnna’n rhywbeth oeddwn i’n gorfod ceisio’i roi o’r neilltu a jesd crack on efo petha a deud y gwir. Dw i ddim yn meddwl ei fod wedi deillio o ofn beirniadaeth—dw i’n olew efo’r syniad fod petha’n gallu bod yn fflop, jesd cân ’dio ar ddiwedd y dydd, sna neb ‘di brifo (gobeithio)! Dw i’n meddwl mai’r teimlad o ‘gymryd lle’ neu fod gen i rhyw inflated ego oedd gwraidd y teimlad, rhyw fath o ‘pwy uffar dw i’n feddwl ydw i?’

Un peth oedd yn falm i hynny oedd gweithio gyda’r bobl fu’n rhan o’m helpu i roi’r albwm at ei gilydd. Ges i’r cyfle i gydweithio efo llu o gerddorion faswn ni’n eu cyfrif fel cyfeillion cerddorol gydol-oes fel Llŷr Pari, Osian Huw ac Aled Huws. Ond dw i hefyd wedi gwneud pentwr o gyfeillion cerddorol gydol-oes newydd fel Gethin Griffiths, Harri Owain a Beca Davies. Does na’m dwywaith mai dyma’r elfen dw i wedi ei fwynhau fwyaf am greu’r albwm, clywed cerddorion a chynhyrchwyr eraill yn blodeuo’r caneuon i be bynnag ydyn nhw heddiw. Mi wnes i wirioneddol fwynhau’r broses o roi’r albwm at ei gilydd efo nhw a thrwy hynny roedd o’n teimlo fwy fel gweithio efo band na chreu rhywbeth fy hun. 

 

Oes gen ti hoff gân ar y record?

Dw i’n meddwl mai Arthur Bach ydi’n hoff gân. Mae hi’n gân i mi sy’n ‘symio’ fyny popeth am y cysyniad ac mae hi’n gân sy’n tynnu mymryn o eiriau o ganeuon eraill yr albwm a’u troi nhw ar eu pen. Mae’n rhywbeth dw i’n licio ei wneud, troi a throsi ar yr un gair/geiriau a’u rhoi mewn cyd-destunau newydd.

 

Beth ydy’r bwriad nesa’ ‘te; llonni yn llwyddiant yr albwm neu symud ymlaen?

Symud ymlaen fydda ora, mashwr!