Dechrau cyhoeddi lein-yp Gŵyl Fel ‘na Ma’i

Mae’r ŵyl newydd a gynhelir yn Sir Benfro, Gŵyl Fel ‘na Ma’i, wedi dechrau cyhoedd manylion y digwyddiad eleni. 

Crymych ydy lleoliad yr ŵyl gerddoriaeth newydd, ac fe’i cynhaliwyd gyntaf yno ym mis Mai llynedd. Mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi mai dyddiad yr ŵyl yn 2023 fydd 6 Mai. 

Maent hefyd wedi dechrau datgelu enwau rhai o’r artistiaid fydd yn perfformio yno eleni ac mae’r enwau sydd wedi’u cyhoeddi eleni’n cynnwys tri o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd sef Candelas, Gwilym a Bwncath. 

Mae’r trefnwyr hefyd wedi cyhoeddi manylion cystadleuaeth i fandiau neu artistiaid ifanc newydd sy’n dod o Sir Benfro, Sir Gâr neu Geredigion. Cystadleuaeth er cof am Richard a Wyn Jones ydy hon, sef yr aelodau o’r band Ail Symudiad a sylfaenwyr label Recordiau Fflach a fu farw yn ystod 2021. 

Cynhelir y gystadleuaeth mewn noson arbennig yn Neuadd Hermon ar 10 Chwefror, gyda Bwncath i berfformio set ar ddiwedd y noson. Mae Elidyr Glyn o’r band Bwncath yn un o ferniaid y gystadleuaeth ynghyd â Dafydd ac Osian Jones, sef meibion Richard Fflach ac aelodau diweddar o’r band Ail Symudiad. 

Bydd enillwyr y gystadleuaeth yn cael cyfle i berfformion yng Ngŵyl Fel ‘na Ma’i eleni, ynghyd â gwobr ariannol o £200 a thlws Her Goffa Richard a Wyn. Y dyddiad cau ar gyfer artistiaid sydd am gystadlu ydy 13 Ionawr.