Bydd gweithdy a gig nesaf prosiect Merched yn Gwneud Miwsig yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar 9 Medi.
Clwb Ifor Bach fydd lleoliad y gweithgarwch y tro hwn a bydd gweithdai’n cael ei harwain gan y DJ a chyflwynydd Molly Palmer, ynghyd â’r cerddorion Eädyth a Hana Lili.
Bydd Eädyth hefyd yn perfformio yn y gig gyda’r hwyr ar lein-yp sydd hefyd yn cynnwys Chroma a Francis Rees.
Mae modd archebu tocynnau i’r gweithdy nawr.