DOLOREM – Albwm newydd CELAVI

Mae’r band metal o’r gogledd, CELAVI, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf ‘DOLOREM’.

CELAVI yw Gwion a Sarah, band metal / nu-metal / goth o Fangor, Gogledd Cymru.

Dylanwadir ar eu cerddoriaeth gan sŵn diwydiannol / electro-roc, gan gyflwyno elfen newydd i fetal. Mae sŵn eu cerddoriaeth yn cael ei yrru gan y gitars trwm a’n gwrthdaro’n ddramatig gyda llais meddal Sarah. 

Yn chwifio’r faner dros fetal Cymreig, mae CELAVI bellach wedi derbyn dros filiwn o ffrydiau yn rhyngwladol ac wedi derbyn cefnogaeth gan rai o restrau chwarae golygyddol mwyaf eu maes, gan gynnwys ‘Best New Bands’ a ‘Breakthrough Rock’ ar Amazon Music. 

Cafodd eu trac diweddaraf ‘NEB ARALL’ ei chwarae ar raglen BBC Introducing Rock ar BBC Radio 1, gydag Alyx Holcombe yn cyflwyno’r trac fel “now an empowering anthem all about knowing your self-worth, we love those here!” 

Yn ogystal, mae BBC Introducing Wales, BBC 6 Music, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru wedi cefnogi CELAVI dros y misoedd diwethaf, gyda BBC Radio Cymru yn disgrifio’r band fel y peth mwyaf swnllyd i ddod o Ogledd Cymru!

Mae albwm cyntaf CELAVI ‘DOLOREM’ allan ers 28 Gorffennaf 2023 ar label annibynnol y band, MERAKI. Roedd lansiad swyddogol yr albwm yn HMV Caerdydd ar 29 Gorffennaf.