Mae Ffos Goch, prosiect arbrofol y cerddor Stuart Estell, wedi rhyddhau dwy EP ers dydd Gwener 15 Rhagfyr.
‘Gobaith Newydd’ a ‘Dim Eira, Dim Sioe’ ydy’r ddwy record fer newydd sydd allan yn ddigidol ar label Recordiau Hwyrol.
“Bydd ‘Gobaith Newydd’ yn syndod i unrhyw un sydd yn disgwyl mwy o ddefnydd arbrofol” meddai Stuart.
“Nod y trefniant oedd ail-greu rhywbeth o deimlad records Nadolig Phil Spector, gyda lot gormod o offerynnau… fe wnes i daflu popeth ond y dresel ati hi.
“Mae’n fyfyrdod ar y Nadolig a ddilynodd y cyfnodau clo, a fy mhrofiadau fy hun o COVID – ac yn bwysicach fyth, llythyr serch i fy mhartner.”
Ar y llaw arall, mae ‘Dim Eira, Dim Sioe’ yn record hollol wahanol ac yn ailadrodd hanes cyffuriol Siôn Corn.
Mae’r EP yn gweld Stuart yn ail-ryddhau sengl a gafodd ei chyhoeddi’n wreiddiol ym mis Rhagfyr 2022 mewn gwirionedd, sef un o’r caneuon cyntaf i ymddangos gan y prosiect cerddorol newydd.
Ers hynny mae wedi bod yn un o artistiaid prysura’ Cymru gan ryddhau cyfres o senglau a recordiau byr, gan gynnwys yr EPs ‘Atgofion’ ym mis Mai a ‘Pwmpenni’ ym mis Hydref.