Dyddiad rhyddhau albwm Dafydd Owain

Mae label Recordiau I KA CHING wedi cyhoeddi dyddiad rhyddhau albwm y cerddor Dafydd Owain.

Mae Dafydd yn gyfarwydd fel aelod o’r bandiau Eitha Tal Ffranco, Jen Jeniro a Palenco yn y gorffennol, ond ers dechrau’r flwyddyn mae wedi bod yn cyhoeddi cerddoriaeth fel artist unigol.

Rhyddhawyd ei sengl gyntaf, ‘Uwch Dros y Pysgod’ ddiwedd mis Ionawr, cyn i ‘Gan Gwaith’ lanio fel dilyniant ym mis Mawrth eleni. Bydd ei albwm unigol cyntaf allan yn swyddogol ar 17 Mai, ac yn rhannu enw ei sengl gyntaf, ‘Uwch Dros y Pysgod’.

Bydd cyfle i’w weld yn perfformio caneuon o’r albwm mewn gigs yn Galeri, Caernarfon ar 19 Mai gyda chefnogaeth gan Mared Williams, ac yn Theatr Chapter, Caerdydd ar 8 Mehefin gyda chefnogaeth gan Ffenest.