Edrych ’nôl ar 2023 yr artistiaid ifainc

Gruffudd ab Owain

Bron i flwyddyn yn ôl, mi roddwyd y dasg i mi o greu rhestr o’r artistiaid ifainc y dylid cadw golwg arnyn nhw yn ystod 2023.

Er heriau’r cyfnodau clo ac ati, byddai’r dasg wedi gallu bod yn un lawer anoddach, ond roedd brwdfrydedd byw i’w deimlo ymysg y to ifanc o gerddorion, ac felly roedd curadu’r rhestr yn beth pleserus iawn i’w wneud.

Braf yw gallu dweud fod y brwdfrydedd byw hwnnw wedi treiddio i’r sîn yn ystod 2023, drwy gydol tymor y gwyliau a thu hwnt diolch i’r caneuon y maen nhw wedi eu rhyddhau sydd ar gael i wrando arnyn nhw.

Felly, a ninnau’n dynesu at y ’Dolig, mae’n bryd i ni gymryd golwg ar sut flwyddyn fu 2023 i’r artistiaid ifanc hynny. Lwyddon nhw i gyflawni eu hamcanion?

Maes Parcio

 

Pan enwebwyd y band pync trwm o Gaernarfon ac Ynys Môn, Maes Parcio, i’r rhestr o Artistiaid Ifanc i’w Gwylio yn 2023, roedden nhw eisoes yn gyfarwydd i ddarllennwyr Y Selar a hwythau wedi rhyddhau eu sengl gyntaf, ‘Sgen Ti Awydd’, ar label Inois ychydig wythnosau’n flaenorol.

Dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud adeg yma llynedd am eu cynlluniau ar gyfer 2023: “Yn y flwyddyn newydd, ’dan ni’n gobeithio mynd i’r stiwdio i recordio, a mynd lawr llwybr mwy trwm efo’r sengl nesa’ efo agwedda’ ‘metalcore‘.”

Wel, maen nhw wedi cadw’n driw i’r addewid hwnnw. Rhyddhawyd eu hail sengl nhw, ‘Chwdyns Blewog’, sy’n sicr yn adlewyrchu’r llwybr trymach hwnnw, ym mis Mehefin, ac erbyn dechrau mis Medi, roedd eu EP cyntaf nhw, ‘Nodiadau ar Gariad a Gwleidyddiaeth’ wedi glanio.

Bu’n flwyddyn brysur iddyn nhw ar y sîn gigio hefyd, gyda Llwyfan y Maes yr Eisteddfod a’r Ddawns Ryng-golegol mae’n siŵr ymysg eu huchafbwyntiau.

 

Tesni

Hughes

Bu

’n flwyddyn brysur arall i Tesni Hughes yn perfformio’i cherddoriaeth ar ei phen ei hun ac yng nghwmni’r band hyd a lled y wlad eleni, gan ddiddanu cynulleidfaoedd o Langefni i Abertawe, a denu torf iach iawn yng Nghaffi Maes B ac mewn llecynnau eraill yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

“O ran sŵn dwi’n meddwl bo’ fi’n creu tiwns sydd yn eitha pop/rock/indie vibes rŵan,” meddai. 

“’Nes i gychwyn yn ‘neud popeth yn acoustic gyda caneuon rili ‘chill’ fel fy sengl gynta ‘Pell I Ffwrdd’ ond rŵan mae bandia’ fel Breichiau Hir, Mellt a Oasis yn cael dylanwad ar y stwff newydd dwi’n gobeithio rhyddhau yn y dyfodol agos iawn!”

Mae hynny’n sicr i’w glywed ar y cynnyrch newydd gawson ni wedi’i ryddhau ganddi ar label INOIS, yn benodol y sengl hynod fachog ‘Cwestiynau’ laniodd ym mis Chwefror.

Ble?

Cafodd y grŵp o Gaerdydd Ble? eu hail haf o berfformio yn ystod 2023, gan gynnwys serennu ar lwyfannau fel Tafwyl, a chael hedleinio yng Nghlwb Ifor Bach.

Yn yr erthygl flwyddyn yn ôl, mi’r oedden nhw’n “edrych ymlaen at weld beth ddaw a 2023 i ni ag ry’n ni’n gobeithio dechrau rhyddhau ambell gân. Ond fydd raid i chi aros i weld!”

Wel, mi lwyddon nhw i ryddhau ambell gân, a hynny fel y band cyntaf ar label annibynnol Amhenodol. Daeth ‘Epiphany’ i’r byd, a’r pishyn cardfwrdd ‘Sŵn dy Lais’ ar gyfer gigs gydag o, ym mis Mehefin, ac yna’n fwy diweddar, rhyddhawyd eu hail sengl, ‘Rhedeg’.

Maen nhw wedi ennyn cryn boblogrwydd i’w dwy sengl ac i’w perfformiadau, a sylw gan Radio Cymru a Heno. 

 

Francis Rees

O Dywyn ym Meirionnydd y daw Beth Pugh, sy’n perfformio dan yr enw Francis Rees, ac wedi adeiladu tipyn go lew o brofiad dros y blynyddoedd, a thrwy hynny’n enw digon cyfarwydd i ddarllenwyr Y Selar.

“Fy plans ar gyfer 2023 yw cario ’mlaen be ‘nes i gychwyn gyda fy miwsig a mwy o gigs,” oedd ei sylwadau hi flwyddyn yn ôl, ac mi wnaeth hi’n sicr lwyddo yn hynny o beth. Mi gawson ni ddwy sengl newydd ganddi, y gyntaf ‘Ferchferchetan Bach’ ym mis Mawrth, ac yna rhyddhawyd ‘Pell’ ddechrau mis Rhagfyr ar label Pendrwm.

Heb anghofio wrth gwrs ei bod hi wedi cyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau am yr ail waith, gan fwynhau’r holl brofiadau sy’n dod law yn llaw â hynny. Mi allwch chi wylio’i pherfformiad hi o Stiwdio Sain fel rhan o’r gystadleuaeth drwy glicio ar y ddolen yma.

 

Dadleoli

 

Band arall fwynhaodd ail flwyddyn o berfformio yn 2023 yw Dadleoli, band pop ifanc o Gaerdydd.

Roedden nhw’n barod wedi adeiladu tipyn o enw iddyn nhw’u hunain yn 2022, ac yn yr erthygl flwyddyn yn ôl, roedden nhw wedi “ysgrifennu tua 10 o ganeuon ac yn gobeithio cael rhain wedi recordio a’i rhannu dros y misoedd nesaf.”

Bryd hynny, roedd eu sengl ‘Cefnogi Cymru’ wedi’i rhyddhau’n barod ar gyfer Cwpan Pêl-Droed y Byd, ac mi roedden nhw bryd hynny’n gaddo bod “bendant mwy ar y ffordd yn 2023.”

Wnaethon nhw mo’n siomi ni yn hynny o beth, gan ryddhau eu EP cyntaf ar label Jigcal, ‘Diwrnodau Haf’, ym mis Gorffennaf. Gellir darllen adolygiad Nel Thomas ohoni yn rhifyn yr haf Y Selar, gyda’r fersiwn ar-lein i’w ganfod fan hyn.

 

Talulah Thomas

Mae’r cyfansoddwr a’r dylunydd sain Talulah Thomas, sy’n wreiddiol o ardal Llangollen, wedi dod yn enw cyfarwydd i ni sy’n cadw bys ar y pwls ar y sîn gerddoriaeth yng Nghymru.

Nod Talulah ydy “edrych i fynegi mwy o gynrychiolaeth a gwelededd queer o fewn y sîn miwsig Cymraeg,” sy’n nod sy’n anoddach i’w fesur na nod fel ‘rhyddhau cân newydd’ fel sydd gan yr artistiaid eraill ar y rhestr, ond mae modd darllen mwy am gerddoriaeth cwîar ar y sîn yn rhifyn yr Haf o gylchgrawn Y Selar.

Dywedodd Talulah flwyddyn yn ôl fod y cynhyrchiad ‘Byth yn Blino’ “wedi’i wreiddio mewn mynegiant o gariad queer, a daeth y gân honno allan fel sengl ym mis Ebrill. Ers hynny, ychwanegwyd sengl arall i’w casgliad, sef ‘Slofi’, gafodd ei ryddhau ar I KA CHING ym mis Awst.

Bu’n perfformio’r caneuon ac fel DJ yn Llundain a thu hwnt mewn digwyddiadau Cymraeg ac eraill yn ystod 2023, ac mae cryn edrych ymlaen at beth sydd i ddod yn 2024.

 

Mynadd

 

O ardal Y Bala daw’r grŵp ‘Mynadd’ oedd ond wedi ffurfio ers ychydig wythnosau pan yn ysgrifennu’r erthygl y llynedd, ac wedi perfformio mewn un gig fel rhan o brosiect Gigs Coridor yn Theatr Derek Williams. Bryd hynny, mi wnaethon nhw berfformio dwy gân wreiddiol fel rhan o’u set, ac erbyn hyn, mae un o’r rheiny, ‘Llwybrau’, wedi ei rhyddhau ers mis Hydref ar label I KA CHING.

Dywedodd y prif leisydd, Elain, flwyddyn yn ôl: “Ma’ geny’ ni gynlluniau mawr at 2023. Ma geny’ ni lond llaw o gigs wedi bwcio at ddechrau’r flwyddyn, a den ni’n brysur yn ‘sgwennu set o ganeuon i ddiddanu cynulleidfaoedd ledled Cymru.”

Mi gawson nhw haf prysur o berfformio, a hynny yn Eisteddfodau’r Genedlaethol a’r Urdd ac yn Sesiwn Fawr Dolgellau, ymysg eraill.

 

Alis Glyn

Alis oedd un o’r rhai fuodd fwyaf penodol wrth amlinellu ei hamcanion ar gyfer y flwyddyn o’i blaen yn yr erthygl llynedd. “Yn 2023 dwi’n gobeithio rhyddhau ar blatformau ffrydio gyda mwy o ganeuon sydd ar y gweill. Dwi hefyd yn gobeithio gallu cystadlu ym Mrwydr y Bandiau 2023 a pherfformio yn yr Eisteddfod ac mewn gwyliau ledled Cymru.”

Wel, mi gafodd lwyddiant gyda phob un o’r amcanion hynny. Rhyddhawyd ei EP cyntaf, ‘Pwy Wyt Ti?’, sy’n cynnwys chwe thrac, ar recordiau Aran ganol mis Tachwedd. Mi gafodd gyfle i gystadlu ym Mrwydr y Bandiau, a llwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol gan berfformio ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod, a recordio cân yn Sain y gallwch chi ei gwylio fan hyn

 

Cai

Prosiect cerddorol Osian Cai yw Cai, a ddechreuodd yn y cyfnod clo 2020 wrth astudio Technoleg Cerddoriaeth ym Mangor. Esbonia fod ei gynnyrch hyd yma “yn cyd-fynd â steil bedroom pop / dream pop”, oedd eisoes wedi cael cryn dipyn o lwyddiant cyn cyhoeddi’r erthygl flwyddyn yn ôl ym Mrwydr y Bandiau yn 2021, ac ennill cystadleuaeth ailgymysgu Maes B a Brwydr y Bandiau.

Er na chafwyd cynnyrch newydd ar y platfformau ffrydio, mi gafodd flwyddyn dda o gigio fel Cai ac hefyd gydag artistiaid eraill, a gwneud sesiwn stiwdio dau drac ar raglen Mirain Iwerydd.

______

Mae’n braf ei bod hi’n haws nag erioed i gefnogi’r artistiaid yma, drwy’r platfformiau ffrydio gan gynnwys Bandcamp, lle gallwch chi dalu am y cynnyrch. Dwi’n siŵr y bydd digonedd o gyfleoedd i’w gweld ledled Cymru yn ystod 2024.

A dwi’n edrych ymlaen yn barod at gael curadu’r rhestr o artistiaid ifainc eraill i’w gwylio yn 2024, fydd yn barod ar eich cyfer erbyn y flwyddyn newydd.

 

Dyma ddarn gwreiddiol Gruff:

Artistiaid ifainc i’w gwylio yn 2023