Bydd y gantores ifanc o Gaernarfon, Alis Glyn, yn ryddhau ei EP cyntaf ar ddydd Gwener 17 Tachwedd.
‘Pwy Wyt Ti?’ ydy enw’r record fer newydd sy’n cael ei ryddhau ar label Recordiau Aran.
Mae’r EP yn ffrwyth dros flwyddyn o waith yn y stiwdio ac yn cynnwys rhai o ganeuon mwyaf adnabyddus yr artist ifanc hyd yma.
Fel rhagflas o’r casgliad, mae’r teitl drac wedi’i ryddhau’n ddigidol ers dydd Gwener 10 Tachwedd, wythnos cyn rhyddhau’r EP.
Mae’r EP yn ddilyniant i sengl gyntaf Alis, ‘Golau’, a ryddhawyd ym mis Rhagfyr 2022, ac yna’r sengl ‘Seithfed Nef’ a ryddhawyd yn gynharach eleni ym mis Mawrth.
Mae’r flwyddyn hon wedi dod â nifer o gyfleoedd newydd i Alis Glyn. Bu’n ymddangos yng ngŵyl Tafwyl, Galeri Caernarfon, Gig UMCB yn Pontio a hefyd, fe enillodd le yn y pedwar olaf yn rownd derfynol cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ymddangos ar Lwyfan Maes y Brifwyl ym Moduan ym mis Awst.
Nid dyma’r tro cyntaf i Alis dderbyn cefnogaeth gan yr Eisteddfod, wedi iddi gymryd rhan mewn gweithdai Merched yn Gwneud Miwsig y llynedd, prosiect ar y cyd rhwng Maes B a Chlwb Ifor Bach.
Mae ffrwyth yr holl waith yma i’w glywed ar yr EP ac yn dangos arddull a gweledigaeth sicr iawn. Fe glywn lais ifanc yma sy’n edrych ar y byd efo gonestrwydd a brwdfrydedd hyfryd, ond eto, mae yna grefft i’r caneuon sy’n drawiadol iawn ac yn datgan bod arwyddocâd i’r casgliad cyntaf yma.
Yn ôl ei label, mae Alis yn gosod ei stamp yn bendant ar y sin, gyda llawer iawn mwy i gynnig eto.