Bydd label cerddoriaeth electronig o Ogledd Cymru’n rhyddhau EP cyntaf ddydd Gwener yma, 10 Chwefror dan yr enw ‘Sbardun’.
Y cynhyrchydd electronig, Endaf, sy’n rhedeg label a brand cerddoriaeth High Grade Grooves ac mae’r record fer newydd yn cynnwys ffrwyth cyd-weithio cerddorol rhwng 15 o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru.
Nod High Grade Grooves ydy hyrwyddo’r gerddoriaeth electronig sy’n cael ei greu yng Nghymru ar hyn o bryd. Sefydlodd Endaf y label yn 2013 a dros y ddegawd diwethaf mae’r brand wedi tyfu o greu digwyddiadau bach i ddod yn label recordio llawn. Rhyddhau’r casgliad cyntaf yma ydy’r cam diweddaraf ar daith y prosiect.
Mae’r EP yn cynnwys pump o ganeuon, pob un wedi’u creu gan ddau gynhyrchydd a phrif leisydd.
Cysylltu cerddorion
Cychwynnodd Endaf y prosiect gyda’r nod o gysylltu cerddorion Cymreig gyda rhai o’r cynhyrchwyr electronig gorau yng Nghymru ar hyn o bryd.
Enw’r EP newydd ydy ‘Sbardun’ ac mae’n cyfeirio nid yn unig at y cyffro cynyddol ynghylch â cherddoriaeth electronig Gymraeg, ond hefyd yr egni gan unigolion yn y sîn, a’r teimlad ar unrhyw eiliadau bod nhw ar fin ffrwydro.
Traciau’r casgliad ydy:
‘Pelydrau’ – Endaf, Tom Macaulay, Melda Lois
‘Niwed’ – Shamoniks, skylrk. , Sachasom
‘Tears In Rain’ – Mesijo, Maditronique, Mike R.P
‘Cyffwrdd’ – Ifan Dafydd, keyala, Sera
‘Eiliadau’ – Eadyth, Mali Haf, Unity
Nid dyma’r tro cyntaf i High Grade Grooves weithio ar brosiectau creadigol mawr – llynedd fe ddechreuon nhw ‘Sizzling Hot’, sef prosiect cynnal digwyddiadau a ddaeth a 16 o bobl ifanc creadigol o Ogledd Cymru at ei gilydd i gynnal digwyddiadau misol ym Mangor.
Ers hynny mae High Grade Grooves wedi ehangu eu gorwelion, a dyna arweiniodd at yr EP yma.
Profiadau arbennig
Yn ôl syflaenydd High Grade Grooves, roedd rhaid sicrhau fod y broses nid yn unig yn datblygu talent yr oeddent eisoes yn gyfarwydd ag ef, ond hefyd yn dod o hyd i bobl newydd i ddod gyda nhw ar y daith.
“Ychydig llai na blwyddyn yn ôl, gwnaethom ni alwad agored ar gyfer artistiaid oedd eisiau gwneud cais ar gyfer sesiynau stiwdio gyda’n tîm o gynhyrchwyr o’r Gogledd a’r De, cyfle i greu trac gyda’n gilydd” eglura Endaf.
Cynhaliwyd y sesiynau recordio yn Stiwdios Sain yng Ngogledd Cymru, a Music Box Studios yng Nghaerdydd. Gan ddatblygu talent newydd, rhoddodd y prosiect gyfle hefyd i rai artistiaid gael eu profiad cyntaf o gydweithio â chynhyrchwyr proffesiynol mewn stiwdio. Un o’r artistiaid hynny oedd y rapiwr o Ogledd Cymru, Hedydd Ioan, sy’n perfformio dan yr enw, skylrk.
“Yr unig brofiad blaenorol o ni wedi cael o recordio oedd mewn stiwdios cartref felly oedd cael y cyfle i deithio lawr i Gaerdydd i recordio yn arbennig iawn” meddai Hedydd.
“Fel artist newydd, mae profiadau fel hyn yn rai mor arbennig ac yn dangos be sy’n bosib drwy weithio yng Nghymru yn yr iaith Gymraeg.”
Bydd yr EP yn cael ei rhyddhau ar Ddydd Miwsig Cymru, diwrnod cenedlaethol sy’n dathlu diwylliant a’r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg.
Bydd High Grade Grooves hefyd yn cynnal y parti lansio yr EP yn Porters, Caerdydd. Bydd y 15 artist sydd wedi gweithio ar yr EP yn dod ynghyd, gyda pawb yn perfformio set unigol yn ogystal â’u cân newydd o’r casgliad.