Bydd Maes Parcio, y band roc ifanc o Arfon a Môn, yn rhyddhau eu EP cyntaf o’r enw Nodiadau ar Gariad a Gwleidyddiaeth ddydd Gwener yma, 8 Medi.
Mae hi wedi bod yn gyfnod cyffrous i’r band, wrth iddyn nhw chwarae mewn gigs ledled Cymru dros yr haf, gan gynnwys ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae dwy o’u caneuon eisoes wedi eu rhyddhau fel senglau; y trac bachog a phoblogaidd, ‘Sgen Ti Awydd?’, ac yna ‘Chwdyns Blewog’ a’i sain trymach.
Recordiwyd y ddwy gân honno yn eu blwyddyn gyntaf fel band, wedi iddyn nhw ffurfio fel rhan o raglen Marathon Roc yn Galeri Caernarfon yn 2018.
Maen nhw’n dweud mai’r caneuon sydd wedi bod yn “ffrwtian” o gwmpas dros y cyfnod hwnnw o bum mlynedd yw’r cynnyrch ar yr EP.
“Ma’r EP yn rhyw fath o stori am dyfu fyny yn yr oes sydd ohoni. Ma’n sôn am sut ma gwleidyddiaeth, y newyddion a chariad ayyb yn gallu effeithio ar iechyd meddwl a’r ffordd ma rhywun yn edrych ar y byd,” esbonia Gwydion Outram, lleisydd a gitarydd y band.
Yn ôl y drymiwr, Owain Siôn, mae’r EP yn gyfle iddyn nhw sefydlu pwy ydyn nhw fel band o ran y geiriau a’r offeryniaeth, tra bo Twm Evans (allweddellau), yn credu bod rhywbeth i bawb yn rhywle yn y casgliad pum trac hwn.
“Gobeithio fydd bobl yn joio’r cyfle i gael yn flîn, yn ddagreuol ne just yn hollol hyper wrth wrando ar y traciau,” meddai Owain.
“Ma’r rollercoaster rhwng y gwleidyddol a’r emosiynol mor amlwg mae o’n berffaith i ddisgrifio sut ma’i i fod yn berson ifanc yng Nghymru yn 2023.”
Wythnos cyn rhyddhau’r casgliad roedd cyfle am ragflas wrth i’r gân sy’n cloi’r EP, ‘Gad Fi Gysgu’, gael ei rhyddhau fel sengl. Maen nhw’n disgrifio’r gân fel “odyssey epig sy’n crynhoi sŵn newydd y band.”
Yna, ar y 9 Medi, bydd y triawd yn lansio’r EP mewn gig yn Belle Vue, Bangor, gyda chefnogaeth gan y bandiau ifanc Orinj a Brenig. Bydd y band hefyd yn chwarae yng Ngŵyl Fedi’r Plu, Llanystumdwy, ar yr 2 Medi, pan fydd Bob Delyn a’r Ebillion yn cloi’r cyfan.